Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cwestiynau poblogaidd

Mae’r adran hon yn bwrw golwg ar rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch ailgylchu. Gobeithio ein bod ni wedi ateb eich ymholiad. Fodd bynnag, cysylltwch â ni os ydych chi angen rhagor o wybodaeth.

faqiconQuestCYM copyPam dylwn i ailgylchu? FAQ answer

Mae'n bosibl ailgylchu dros 60% o sbwriel cartrefi, a thrwy gydio yn y syniad, gallwch chi helpu i gwtogi ar faint o sbwriel sy'n mynd i'r tomenni. Mae'r pethau i gyd rydych chi'n eu rhoi i'w hailgylchu yn mynd i ganolfannau ailbrosesu sy'n eu troi'n nwyddau newydd. Mae'n rhatach defnyddio deunydd eildro yn lle deunydd crai i wneud pethau newydd ac mae'n arbed ynni hefyd. Trwy ailgylchu, fe fyddwch chi'n helpu i gadw adnoddau naturiol a diogelu'r amgylchedd ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod a chithau.

faqiconQuestCYM copyPam nad yw'r cyngor yn casglu nwyddau plastig i'w hailgylchu? FAQ answer

Dyw nwyddau plastig i'w hailgylchu ddim yn drwm o'u cymharu â deunyddiau megis papur a gwydr. Mewn rhai achosion, yn arbennig yng nghefn gwlad, mae cost casglu a chludo plastig eildro yn fwy na gwerth y deunydd ei hun. Os oes digon o nwyddau plastig i'w hailgylchu mewn man penodol megis tref neu glytwaith o bentrefi, fodd bynnag, mae'r treuliau'n llai ac mae gwerth y deunydd yn fwy na chost y casglu a'r cludo.

faqiconQuestCYM copyPam nad yw'r cyngor yn casglu cardbord i'w ailgylchu?

FAQ answer

Mae problemau casglu cardbord yr un fath â'r rhai ynghylch casglu nwyddau plastig, yn y bôn (gweler uchod)


faqiconQuestCYM copyBeth am gwmnïau, ydyn nhw'n ailgylchu? FAQ answer

Mae pob cwmni'n talu am gael gwared ar ei sbwriel, ond mae cost mynd ag e i'r domen yn cynyddu bob blwyddyn. Felly, byddai o fantais i'r rhan fwyaf o gwmnïau ailgylchu cymaint ag y bo modd o'u sbwriel i gwtogi ar y costau.