Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cwestiynau poblogaidd

faqiconQuestCYM copyPa gymorth sydd ar gael i hen bobl a phobl anabl? FAQ answer

Pe bai cymydog, perthynas neu gyfaill yn fodlon dodi'ch pethau ar ymyl y pafin, byddai hynny o gymorth. Os nad oes neb i'ch helpu, fodd bynnag, fe ddylech chi gysylltu â charfan materion gwastraff eich cyngor a allai drefnu i griw un o'r cerbydau gasglu'ch pethau mewn lle penodol.

faqiconQuestCYM copyRwy'n byw mewn fflat lle nad oes gwasanaeth casglu. Sut galla i ailgylchu? FAQ answer

Mae rhai cynghorau'n datrys y broblem honno trwy roi mannau ailgylchu wrth ochr fflatiau. Ar ben hynny, mae'r cyngor yn cynnal safleoedd amwynderau dinesig lle cewch chi ailgylchu'ch pethau'n rhad ac am ddim ac mae mannau ailgylchu tu allan i sawl siop fawr lle mae modd Cael Gwared cyn Siopa!

faqiconQuestCYM copyBle galla i ailgylchu setiau teledu, peiriannau fideo ac offer trydan eraill? FAQ answer

Fe fydd y rhan fwyaf o safleoedd amwynderau dinesig yn derbyn nwyddau trydan. Os yw'r teclyn yn dal i weithio, chwiliwch y tudalennau melyn am elusen a fydd yn ei dderbyn i'w ailddefnyddio. Weithiau, mae modd rhoi hen gyfrifiaduron i ysgolion neu fudiadau bro.