Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cwestiynau poblogaidd

faqiconQuestCYM copyFaint o sbwriel mae Cymru'n ei ailgylchu? FAQ answer

Dim ond 12.6% o sbwriel ein cartrefi ailgylchodd neu compostiodd cynghorau Cymru ar gyfartaledd yn 2002-03. Cododd hynny at 17.6% yn 2003-04 ond, er gwaetha'r cynnydd, mae Cymru yn dal i wynebu her sylweddol o ran cyrraedd y targed ailgylchu gwladol o 40% erbyn 2010. Mae'n bwysig inni helpu timau gwastraff ein cynghorau ac ailgylchu cymaint ag y bo modd. Yn ôl ffigurau diweddar, 27.6% o wastraff trefol gafodd ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2006-07, o'i gymharu â 23% yn 2005-06.

faqiconQuestCYM copyPa bethau mae modd eu hailgylchu? FAQ answer

Mae'n bosibl ailgylchu tua 60% o sbwriel eich cartref ac mae rhai pethau'n haws eu hailgylchu nag eraill. Nwyddau papur, gwydr, metel a phlastig yw'r prif rai y gallwn ni'u hailgylchu. Ymhlith y pethau llai amlwg mae modd eu hailgylchu mae dillad a gwastraff naturiol megis croen llysiau. Dyw hi ddim yn hawdd ailgylchu pethau megis cemegion i'r ardd, hen diwbiau goleuo a hen fatrïau, a dylech chi fynd â nhw i safle amwynderau dinesig eich bro. Cysylltwch â charfan materion gwastraff eich cyngor i'w holi beth maen nhw'n ei gasglu i ddibenion ailgylchu.

faqiconQuestCYM copyYdy'r cyngor yn ailgylchu popeth mae'n ei gasglu? FAQ answer

Mae'r Cynulliad wedi pennu targedau ailgylchu llym ar gyfer pob un o 22 gyngor Cymru ac, felly, fyddai hi ddim o les iddyn nhw pe baen nhw'n claddu pethau roedden nhw wedi'u casglu i'w hailgylchu. Beth am holi swyddog ailgylchu'ch cyngor sut maen nhw'n ailgylchu'r pethau sydd wedi'u casglu?

faqiconQuestCYM copyPryd mae'r cyngor yn casglu pethau i'w hailgylchu?

FAQ answer

Er bod pob cyngor yn wahanol, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n casglu pethau i'w hailgylchu bob pythefnos neu wythnos. Gofynnwch i swyddog ailgylchu'r cyngor am fanylion y gwasanaeth casglu.

faqiconQuestCYM copyPam nad oes gwasanaeth casglu yn fy ardal i eto, er bod un ar yr ochr arall i'r dre? FAQ answer

Mae angen tipyn o amser a chynllunio i'r cyngor sefydlu gwasanaeth 'ymyl y pafin' effeithiol. Yn aml, rhaid archebu cerbydau arbennig a rhoi gwybod i bob trigolyn am fanylion y gwasanaeth newydd - mae hynny'n cymryd amser. Os nad oes gwasanaeth ichi eto, byddwch yn amyneddgar - bydd yno cyn bo hir. Cofiwch fod y cyngor yn cynnal safleoedd amwynderau dinesig lle cewch chi ailgylchu pethau'n rhad ac am ddim ac mae mannau ailgylchu tu allan i lawer o'r siopau mawr fel bo'n bosibl Cael Gwared cyn Siopa!