Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Eco-'Sgolion

Beth yw Eco-Ysgol?

Mae Rhaglen yr Eco-'Sgolion yn annog disgyblion i gydio ym materion yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy.

Eco-SgolionMae'r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae'r meysydd pwnc yn cynnwys Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr,Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Mae'r disgyblion yn cymryd rhan flaengar wrth benderfynu sut mae lleddfu effaith yr ysgol ar yr amgylchedd.  Fel hyn, mae'r rhaglen yn ymestyn tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn meithrin agweddau dinasyddion cydwybodol yn y cartref ac yn y gymuned fel ei gilydd.

Mae Baner Werdd Eco-'Sgolion rhyngwladol ar gyfer ysgolion sy'n rhagori yn y rhaglen yn wobr gydnabyddedig, uchel ei pharch, ym maes addysg er datblygu cynaliadwy.  Gweithgaredd tymor hir yw Rhaglen yr Eco-'Sgolion, ac mae'r ysgolion sy'n ennill y faner yn cael eu hailasesu bob dwy flynedd.

Dros 1,500 o Eco-Sgolion yng Nghymru

Mae dros 8,500 o Eco-'Sgolion wedi'u cofrestru yn 25 o wledydd Ewrop, gan gynnwys 5,800 yn y DG a thros 1,500 yng Nghymru.  Mae Eco-'Sgolion ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru, gan gynnwys amrywiaeth helaeth o ysgolion babanod, cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig.  Mae'r deunydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn rhad ac am ddim i'r ysgolion wedi'u cofrestru.