Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Eco-'Sgolion

Proses yr Eco-'Sgolion

Dyma saith elfen y rhaglen:

  1. Sefydlu Eco-Bwyllgor – ysgogydd y prosiect – ac iddo ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni i ofalu bod y saith elfen arall ar waith ac annog pawb yn yr ysgol i gymryd rhan.
  2. Cynnal adolygiad amgylcheddol.
  3. Rhoi cynllun gweithredu ar waith.
  4. Cymathu'r rhaglen yn y cwrícwlwm.
  5. Cloriannu'r cynnydd.
  6. Cadw llygad ar y gwelliannau a ddylai fod o les i'r gymuned ehangach.
  7. ‘Eco-Cod’, datganiad mae'r disgyblion yn ei lunio i ddangos eu bod wedi ymrwymo i'r rhaglen ac yn gofalu am yr amgylchedd.

Un o brif agweddau'r rhaglen yw gadael i'r ysgolion benderfynu ar faterion.  Mae natur gynhwysol y fframwaith yn galluogi amrywiaeth helaeth o gyrff i fod yn bartneriaid.

Compo y bin compostMae'r rhaglen yn mynd o nerth i nerth gyda chymorth y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru, Llywodraeth y Cynulliad, ESTYN a chyrff amgylcheddol megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru, RSPB, WLGA, Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a Rhwydwaith yr Ysgolion Iach.  Mae'r cyrff hynny'n helpu i gynnal rhwydwaith yr aseswyr ledled y wlad, hefyd.

Trwy gyfrwng y rhaglen, mae Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus' yn cynorthwyo 1,508 o ysgolion ar hyn o bryd, ac mae 201 o'r rheiny wedi ennill Gwobr Baner Werdd Ewrop.