Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ceredigion

Casglu o ymyl y ffordd
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig gwasanaeth ar draws y sir i’w HOLL breswylwyr er mwyn casglu papur, cardfwrdd, caniau a phlastig. Cysylltwch â’r cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Banciau danfon
Yng Ngheredigion mae 58 o fanciau danfon ar gyfer amryw ddeunyddiau megis papur, gwydr, caniau, esgidiau, tecstilau, llyfrau a photeli plastig. Os am fwy o fanylion am y safle agosaf, defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd.

Gwastraff yr ardd
Mae gwasanaeth casglu gwastraff yr ardd wythnosol ar gael am gost o 50c y sach. Gall preswylwyr brynu sachu gwastraff yr ardd o’r Swyddfeydd Rhanbarthol Lleol, neu Ganolfannau Croeso.

Safleoedd amwynderau dinesig
Mae yng Ngheredigion 4 safle amwynderau dinesig:

  • Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan
  • Cilymaenllwyd, Pen-parc, Aberteifi
  • Rhydeinon, Llanarth
  • Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon, Aberystwyth

Mae’r safleoedd ar agor rhwng 9 a 5 o’r gloch (Llun – Gwener) a rhwng 10 a 3 o’r gloch dros y Sul.  Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

 

Cyfeiriad