Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Sir Gâr
Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Sir Gâr yn cynnal tri chynllun casglu o ymyl y ffordd
Cynllun bagiau pinc sy’n casglu caniau, cardfwrdd, papur a phlastig, cynllun bag brown sy’n casglu bwyd gan gynnwys croen llysiau a ffrwythau, golchion platiau a bwyd wedi ei goginio. Ar ben hynny mae gan Sir Gâr gynllun bocs glas i gasglu caniau, cardfwrdd, papur a phlastig.
I weld pa wasanaeth sydd ar waith yn eich ardal chi cysylltwch â Chyngor Sir Gâr .
Safleoedd Banciau Danfon
Mae 53 Safleoedd Banc Danfon yn Sir Gâr yn casglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys gwydr, papur, llyfrau a thecstilau. I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd
Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae gan Sir Gâr 3 Safle Amwynderau Dinesig:
- Trostre, Llanelli
- Nant-y-caws, Caerfyrddin
- Wernddu, Rhydaman
Mae’r mathau o ddefnyddiau a dderbynir yn y safleoedd hyn, a’r oriau agor, yn amrywio. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Gâr.
Tîm Ailgylchu
Yr Hen Ysgol,
Tre Ioan,
Caerfyrddin.
SA31 1LZ- Canolfan Cysylltu
- 08456 580445
- ContactCentre@carmarthenshire.gov.uk

