Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Blaenau Gwent

Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Blaenau Gwent yn casglu bocsys gwyrdd o ymyl y ffordd bob yn ail wythnos ar gyfer gwydr, tuniau a chaniau, tecstilau, poteli plastig, llestri a chyllyll a ffyrc a hen deganau, llyfrau a gemau. Hefyd, mae casgliad wythnosol ar gyfer papurau newydd a chylchgronau.

Safleoedd Banciau Danfon
Mae 6 Safle Banciau Danfon ym Mlaenau Gwent yn casglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys gwydr, papur, caniau a thecstilau. I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd

Safleoedd Amwynderau Dinesig

Mae gan Blaenau Gwent 3 Safle Amwynderau Dinesig:

  • New Vale, Stad Ddiwydiannol Waun-y-pownd, Glyn Ebwy
  • Cwm Tawelwch, Beechwood House, Cwm, Glyn Ebwy
  • Bournville, Heol Abertileri, Blaenau

Mae pob safle yn casglu defnyddiau gwahanol, Cysylltwch â Chyngr Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gael mwy o fanylion.

Mae’r safleoedd ar agor rhwng 8am a 5pm (mis Tachwedd tan fis Ebrill) a rhwng 8am a 8pm (mis Mai tan fis Hydref)

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Cyngor Blaenau Gwent

Cyfeiriad