Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Amdanon ni
O arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau, gallwch chi effeithio'n fawr ar yr amgylchedd nawr ac yn y dyfodol... ac mae mor hawdd!
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu Cynllun 'Craff am Wastraff' ers 2002 i roi gwybodaeth swyddogol i'r cyhoedd, trwy'r wefan yma a dulliau eraill, am reoli deunyddiau ac adnoddau'n fwy cynaladwy a chwtogi ar wastraff.
Mae modd ailddefnyddio neu ailgylchu bron popeth y gallwch chi feddwl amdano megis pecynnau, papurau, nwyddau crefftau'r cartref, peiriannau a dodrefn – defnyddiwch ein peiriant chwilio isod am restr o wasanaethau yn eich ardal chi.
Cewch chi ragor o wybodaeth am ffyrdd amgen o gael gwared ar bethau o'r fath, yn hytrach na'u claddu, trwy ddefnyddio ein chwiliadur i ddod o hyd i gyfleusterau lleol.
O gael gwybod rhagor a chydio yn y syniad - gan ailgylchu rhagor a chwtogi ar y pecynnau rydych chi'n eu prynu, er enghraifft - byddwch chi'n helpu deunyddiau i bara yn hirach ac yn arbed adnoddau.
Cyn taflu unrhyw beth (boed yn y cartref neu'r ardd), dylech chi gael rhagor o wybodaeth am beth y gallwch chi ei wneud. O gompostio gartref, gallech chi gwtogi o draean ar y sbwriel rydych chi'n ei roi allan i'w gasglu.
Cliciwch yma am restr o bartneriaid Cynllun Craff am Wastraff

