Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Wrecsam

Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Wrecsam yn cynnig cynllun casglu o ymyl y ffordd bob wythnos mewn rhai rhannau o’r sir. Mae’r cynllyn yn defnyddio sachau ar gyfer papurau newydd a phost sgrwtsh a bocs ar gyfer gwydr, plastig, caniau ac aerosols. Cynigir casgliad wythnosol o wastraff gardd hefyd. Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gael mwy o wybodaeth.

Safleoedd Banciau Danfon
Mae 34 o Safleoedd Banciau Danfon yn Wrecsam i gasglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau, esgidiau a thecstilau. I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd

Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae 3 Safle Amwynderau Dinesig yn Wrecsam

  • Y Lodge, Brymbo 01978 720059
  • Queensway, Parc Caia 01978 363028
  • Wynnstay Bank, Plas Madoc, Acrefair 01978 823810

Cysylltwch â’ch safle agosaf i gael gwybod yr oriau agor.

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gael mwy o wybodaeth.

Cyfeiriad
  • Tîm Ailgylchu
    CBS Wrecsam
    Crown Buildings
    Chester Street
    Wrexham
    LL13 8BG

  • Gwifren Gymorth Ailgylchu
  • 01978 298989
  • recycling@wrexham.gov.uk