Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Sir Fynwy
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig dau gynllun ar gyfer casglu pethau i’w hailgylchu oddi ar ymyl y pafin:
- Mae Cynllun Ailgylchu’r Bagiau Coch a Phorffor yn casglu tuniau, jariau, ffoil, caniau, chwistrelli, papur, cardfwrdd, llythyrau sgrwtsh, cyfeirlyfrau ffôn a chatalogau bob wythnos.
- Mae Cynllun Ailgylchu Gwastraff o’r Ardd a’r Gegin yn casglu gwastraff o’r ardd, baw anifeiliaid anwes nad ydyn nhw’n bwyta cig, darnau mawr o gardfwrdd, papur wedi’i dorri’n fân (rhowch hwnnw yn y bag gwyn os bydd modd) a phob math o fwyd sy’n wastraff bob wythnos.
Mae’r cynlluniau ar gael yn ôl ble rydych chi’n byw yn y sir gan fod rhai ardaloedd gwledig heb eu cynnwys eto. Mae rhagor o wybodaeth gan Swyddog Ailgylchu Cyngor Sir Fynwy: 01633 644119 neu recycling@monmouthshire.gov.uk
Banciau danfon
Mae 46 o safleoedd yn Sir Fynwy lle cewch chi adael amryw ddeunyddiau megis papur, gwydr, caniau, ffoil, llyfrau, esgidiau a dillad. Mae modd cael rhagor o fanylion trwy ddefnyddio’n chwiliadur ni.
Canolfannau ailgylchu gwastraff o’r cartref
Mae pedair canolfan o’r fath yn y sir:-
- Llan-ffwyst Fawr
- Five Lanes
- Mitchel Troy
- Brynbuga
Mae’r safleoedd ar agor rhwng 8 o’r gloch y bore a 6 o’r gloch yr hwyr bob dydd ar wahân i Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Fynwy.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Fynwy.
Tîm Ailgylchu
Adran yr Amgylchedd
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Cwmbrân
NP44 2XH- Rebecca Blount
- 01633 644119
- recycling@monmouthshire.gov.uk
- http://www.monmouthshire.gov.uk/
- Ailgylchu Bro Sir Fynwy
- Homemakers Cymru
- Cadwch Gymru’n Daclus
- Cyfeillion y Ddaear Cymru
- Community RePaint Website
- Freecycle Mynwy
- South Wales Nappies (English only site)
- Recycle Now: Compost Buddies video (English only)
- Furniture Reuse Network
- Freegle reuse networks
- Recycling batteries: Information from Directgov (English only site)
- bigwardrobe.com (English language only)
- Freegive (English language)
- Every Can Counts (English only website)


