Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Gwynedd

Casgliadau o ymyl y ffordd

Mae Gwynedd yn cynnig cagliad bocs glas bob yn ail wythnos ar gyfer caniau, poteli a jariau gwydr, tecstilau a phapur, a photeli plastig mewn rhai ardaloedd. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Gwynedd.

Safleoedd Banciau Danfon

Mae 53 Safle Banciau Danfon yng Ngwynedd yn casglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau, esgidiau, tecstilau a llyfrau.

I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd

Safleoedd Amwynderau Dinesig

Mae gan Wynedd 6 Safle Amwynderau Dinesig:

  • Canolfan Ailgylchu Caergylchu, Caernarfon 01286 679872
  • Canolfan Ailgylchu Bangor, Stad Ddiwydiannol Llandygai 01286 679872
  • Canolfan Ailgylchu Bala 01286 679872
  • Safle Tirlenwi Cilgwyn, Carmel 01286 881323
  • Safle Tirlenwi Ffridd Rasus, Harlech 01286 679872
  • Safle Ailgylchu Rhyngddwyryd, Garndolbenmaen 01286 679872

Bydd canolfan ailgylchu newydd yn agor ym Mhwllheli yn ystod y misoedd nesaf.

Mae oriau agor y safleoedd yn amrywio felly cysylltwch â phob safle i gael y manylion neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd i gael rhagor o fanylion.

Cyfeiriad
  • Tîm Ailgylchu
    Stâd Ddiwydiannol Cibyn
    Heol Llanberis
    Caernarfon
    LL55 2BF

  • Llinell Gymorth Gwastraff Ailgylchu
  • 01286 679 872
  • ailgylchu@gwynedd.gov.uk