Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Sir Ddinbych

Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae gan Sir Ddinbych gynllun casglu bocsys glas o ymyl y ffordd ar gyfer papurau newydd a chylchgronau, poteli a jariau gwydr, tuniau a chaniau a thecstilau. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych.

Safleoedd Banciau Danfon
Mae 21 Safle Banciau Danfon yn Sir Ddinbych yn casglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau, esgidiau a thecstilau.  I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd

Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae gan Sir Ddinbych 6 Safle Amwynderau Dinesig:

  • Carrog, Corwen
  • Ystad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych
  • Ffordd Wrecsam, Llangollen
  • Tip Lane, Prestatyn
  • Marsh Road, Y Rhyl
  • Stad Ddiwydiannol Lon Parcwr, Rhuthun

Mae oriau agor y safleoedd yn amrywio.  Cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych i gael manylion am eich safle agosaf.

Cyfeiriad
  • Tîm Ailgylchu
    Canolfan Parc Cinmel
    Bryn y Peiriant
    Bodelwyddan
    LL18 5UX

  • Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • 01824 706 100
Sefydliadau eraill