Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Sir Gâr

Casglu o dŷ i dŷ
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gynllun ailgylchu a chompostio o dŷ i dŷ. Mae bagiau glas yn cael eu darparu ar gyfer pethau ailgylchadwy sych gan gynnwys papur, cardfwrdd, caniau a phlastig, ac mae bin gwyrdd a chadi cegin brown yn cael eu darparu ar gyfer yr holl wastraff bwyd (bwyd wedi ei goginio a bwyd heb ei goginio). Ar hyn o bryd nid yw'r cynllun hwn ar gael i bob cartref yn y sir. Cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin i weld a yw'r cynllun hwn ar waith yn eich ardal chi.

Safleoedd Banciau Casglu
Mae 120 o safleoedd banciau casglu yn Sir Gaerfyrddin sy'n casglu amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys gwydr, papur, caniau a thecstilau. I gael gwybodaeth am eich safle agosaf defnyddiwch y cyfleuster lleoli ar ein gwefan.

Safleoedd Cyfleusterau Ailgylchu
Mae gan Sir Gaerfyrddin 5 o Ganolfannau Ailgylchu:

  • Trostre, Llanelli
  • Nant-y-caws, Caerfyrddin
  • Wernddu, Rhydaman
  • Llangadog
  • Hendy-gwyn

Mae'r oriau agor a'r deunyddiau y gallwch eu gadael yn y rhain yn amrywio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin neu ewch i Chyn Sir Gâr.gor

Cyfeiriad