Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Caerffili

Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Caerffili yn cynnal casgliad o ymyl y ffordd bob yn ail wythnos ar gyfer papur, poteli plastig, caniau, gwydr, tecstilau ac olew peiriannau. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Safleoedd Banciau Danfon
Mae 47 Safle Banciau Danfon yng Nghaerffili yn casglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau, esgidiau, tecstilau a photeli plastig.  I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd

Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae gan Gaerffili 5 o Safleoedd Amwynderau Dinesig:

  • Pandy Lane, Llanbradach
  • New Road, Tir-y-Berth
  • Safle Diwydiannol Full Moon, Wattsville, Crosskeys
  • Safle Diwydiannol Penmaen, Penmaen Road, Pontllanfraith
  • Stad ddiwydiannol y Lawnt, Rhymni

Mae’r safleoedd ar agor rhwng 9am a 7pm (mis Ebrill tan fis Hydref) a 9am a 4.30pm (mis Medi tan fis Mawrth)

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Caerffili

Cyfeiriad