Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Pen-y-bont ar Ogwr

Casglu oddi ar ymyl y pafin
Cynnig dau flwch ailgylchu du – ar gyfer papur a gwydr – i bob cartref yn y fwrdeistref. Mae modd gadael tecstilau allan mewn bagiau ar ddiwrnod y casglu, hefyd. Mae’r cerbydau’n dod heibio bob pythefnos ar yr un diwrnod â chasglu’r sbwriel. 

Mae’r cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd bob wythnos i 12,000 o gartrefi hefyd, ac yn casglu poteli plastig bob pythefnos.  I ymholi am y gwasanaethau, ffoniwch Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: 01656 643439

Safleoedd Amwynderau Dinesig

Mae gan Pen-y-bont ar Ogwr 4 Safle Amwynderau Dinesig:

  • Safle Amwynderau Cartrefi Tythegston, ger Porth-cawl.
  • Stad Ddiwydiannol Heol Ty Gwyn, Maesteg
  • Stad Ddiwydiannol Brynmenyn, Brynmenyn
  • Stad Ddiwydiannol Penllwyngwent, Bro Ogwr

Mae’r safleoedd yn agored rhwng

8.30am a 8pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener

8.30am a 6pm Dydd Sadwrn a Dydd Sul (mis Ebrill tan fis Medi) 

8.30am a 4.30pm (mis Hydref tan fis Mawrth)

Mae Penllwyngwent ar agor o ddydd Gwener i ddydd Llun yn unig rhwng mis Hydref a mis Mawrth.

Bydd pob safle wedi cau ar 25 a 26 Rhagfyr ac ar 1 Ionawr.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfeiriad