Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ynys Môn

Casglu oddi ar ymyl y pafin
Mae modd i gartrefi Ynys Môn adael pethau i’w hailgylchu ar ymyl y pafin bob wythnos gan gynnwys: poteli/jariau plastig a gwydr, caniau diodydd a bwyd, cetris inc, batrïau i’w defnyddio yn y cartref, ffonau poced, papur, cardfwrdd, tecstilau a sbectol.

Casglu gwastraff o’r ardd
Mae modd i gartrefi Ynys Môn adael gwastraff o’r ardd ar ymyl y pafin bob pythefnos gan gynnwys: toriadau glaswellt, dail, chwyn, blodau a phlanhigion, tociadau, toriadau gwrychoedd a brigau.

Gwastraff cyffredinol o’r cartref
Mae’r cyngor yn casglu gwastraff arall bob pythefnos, hefyd (bob yn ail wythnos i wasanaeth casglu’r gwastraff o’r ardd).

Canolfannau ailgylchu gwastraff o’r cartref
Mae dwy ganolfan o’r fath ar yr ynys:

  • Penhesgyn, Llansadwrn
  • Gwalchmai

Mae’r safleoedd ar agor bob dydd rhwng 10.00 a 5.00. Cewch chi ragor o wybodaeth am y deunyddiau y byddan nhw’n eu derbyn trwy gysylltu â Cyngor Sir Ynys Môn neu edrych ar ei wefan.

 

 

Cyfeiriad