Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ysgol Glan Morfa Samba

26 Mehef 2012

Yn Ysgol Glan Morfa yn Sblot, Caerdydd, mae’r disgyblion wedi bod yn treulio’r ychydig wythnosau diwethaf yn casglu caniau Pupils from Ysgol Glan Morfa, Cardiff with their recycled materials samba bandgwag, poteli plastig, hen lwyau pren a hen sosbenni i greu offerynnau ar gyfer eu prosiect band samba. Roedd yr athrawes gerdd, Morwena Lansley, eisiau dysgu ei disgyblion Blwyddyn 4 am rythmau samba a chafodd y syniad y byddai gwneud eu hofferynnau eu hunain hefyd yn gyfle i’r plant feddwl am y 3 ‘A’ - arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Gofynnodd Morwena i gynllun ‘Craff am Wastraff’ am gyngor ar ble i ddod o hyd i gasgenni plastig mawr i wneud y drymiau. Aeth y disgyblion ati yn y dosbarth i wneud eu hofferynnau gyda help Morwena ac ar ôl gorffen y prosiect, byddant yn perfformio’r gerddoriaeth y maen nhw wedi ei chyfansoddi i weddill yr ysgol.

Meddai Morwena: "Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i ddangos i’r disgyblion bod modd rhoi bywyd newydd i eitemau nad ydyn ni eu hangen mwyach - drwy ddod o hyd i ddefnydd arall ar eu cyfer neu drwy eu rhoi mewn bagiau gwyrdd fel y gallan nhw gael eu troi yn rhywbeth newydd.

"Mae’r plant wedi bod wrth eu bodd yn gwneud yr offerynnau ac maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr at gael perfformio o flaen eu ffrindiau."