Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ewch Amdani Yn Ystod Wythnos Ailgylchu

11 Mehef 2012

Recycle Week 2012 logo -Recycle Home and Away

Mae Cymru yn defnyddio cymaint â 725,000 o boteli plastig bob dydd[1], ond yn ailgylchu hanner ohonynt yn unig. Felly, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog pobl i wneud ymdrech arbennig i ailgylchu yn ystod Wythnos Ailgylchu 2012, rhwng 18 a 24 Mehefin.

Mae disgwyl i lefelau gwastraff gynyddu yn ystod rhaglen ddigwyddiadau gyffrous yr haf sy’n cynnwys y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2012 ac wrth i’r crysau cochion herio Awstralia yng nghamp y bêl hirgron. Felly, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn awyddus i sicrhau y bydd 2012 yn flwyddyn fawr am ailgylchu gwastraff yn ogystal â bod yn flwyddyn fawr ar gyfer yr amrywiol ddigwyddiadau.

Andrew Osborne, Swyddog Ailgylchu cynllun ‘Craff am Wastraff’, sy’n egluro amcan Wythnos Ailgylchu 2012: "Os yw pawb yng Nghymru yn ailgylchu un botel blastig arall yn ystod yr Wythnos Ailgylchu, byddwn yn arbed digon o ynni i bweru tua 3,500 o setiau teledu plasma am flwyddyn. Mae’n bwysig i ni annog pobl i newid eu hymddygiad a dechrau ailgylchu gymaint â phosibl yn awr er mwyn gwneud gwahaniaeth dros yr haf pan fyddwn i gyd yn debygol o fod allan yn cynhyrchu llawer mwy o wastraff.

"Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth casglu ymyl y ffordd sy’n gwneud ailgylchu yn haws nag erioed. Mae Cymru yn arwain y blaen yn hyn o beth, gyda 49% o wastraff cartref yn cael ei ailgylchu, ond rydym yn awyddus i atgoffa pobl i barhau i ailgylchu wrth gynnal barbeciw neu wrth fwynhau picnic dros yr haf. Mae osgoi defnyddio pethau fel cwpanau, platiau a napcynau papur yn ddelfrydol, ond pan fo gwastraff yn anochel, cofiwch fynd ag ef adref a’i ailgylchu.

"Mae ymweliad â’r traeth yn enghraifft berffaith – os ydych chi’n mynd â phicnic gyda chi, cofiwch fynd â’ch gwastraff adref i’w ailgylchu. Mae rhai traethau yng Nghymru yn eiddo preifat ac nid oes ganddynt finiau gwastraff. O ganlyniad, bydd unrhyw wastraff sy’n cael ei daflu yn aros yno am byth. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd â’u gwastraff adref i’w ailgylchu, felly peidiwch â bod yn un o’r llond llaw sy’n ymddwyn yn anghyfrifol.

"Rydyn ni’n falch iawn bod Cyngor Conwy, yn ystod Wythnos Ailgylchu, yn lansio eu troli ailgylchu newydd. Mae’r ffaith bod galw am y system newydd hon o dri bocs sy’n pentyrru ar ben ei gilydd yn dangos bod pobl yn ailgylchu llawer mwy o’u gwastraff ac yn rhoi llawer llai o wastraff yn eu bagiau du.

"Os byddwn yn parhau i daflu cymaint o wastraff ag y gwnawn ar hyn o bryd, bydd ein safleoedd tirlenwi yn llawn mewn saith mlynedd. O ganlyniad, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n ailgylchu cymaint o wastraff â phosibl ac yn taflu llai o fagiau du."

Pum prif ffaith yr Wythnos Ailgylchu:

  • Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ailgylchu 49% o’i gwastraff - ein targed yw cyrraedd 70% erbyn 2025
  • Dim ond gwerth saith mlynedd o ofod tirlenwi sydd ar ôl yng Nghymru, felly mae’n rhaid i ni ailgylchu mwy
  • Yng Nghymru, rydym ni’n defnyddio tua 155,000 tunnell fetrig o becynnu plastig bob blwyddyn
  • Oeddech chi’n gwybod bod modd ailgylchu poteli plastig 100% a bod poteli o bob lliw a llun yn cael eu casglu?
  • Mae Cymru’n cynhyrchu tua 227,000 tunnell fetrig o wastraff bwyd o’r cartref bob blwyddyn – sy’n ddigon i lenwi 10,587 o fysys deulawr. Mae bron 90% o gartrefi Cymru yn derbyn gwasanaeth ar wahân i gasglu bwyd gwastraff gan eu cyngor sy’n fwy o reswm nag erioed i fanteisio ar y gwasanaeth

 

Astudiaethau Achos Wythnos Ailgylchu:

 

Digwyddiadau ledled Cymru:

 

 

 

 

[1] Yn seiliedig ar amcangyfrif y DU a ddarparwyd gan www.recycling-guide.org.uk/facts - mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn seiliedig ar nifer yr anheddau yng Nghymru wedi’u rhannu gyda chyfanswm y DU.