Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog cymunedau lleol i gyfrannu at gynlluniau gwastraff

5 Ion 2012

Mae Cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog pobl y de-ddwyrain i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol o dan arweiniad y Prosiect Gwyrdd, partneriaeth y cynghorau lleol sy’n gyfrifol am ddatblygu ateb cynaliadwy ar gyfer trin gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Mae’r ‘sesiynau gwybodaeth’ cymunedol wedi’u trefnu i helpu i hysbysu trigolion lleol am gynigion y ddau gwmni trin gwastraff sydd ar restr fer partneriaeth y Prosiect Gwyrdd i ddarparu cyfleuster trin gwastraff yn y de-ddwyrain.

Bydd y prosiect yn dewis un cynnig yn unig yn y pen draw. Mae Veolia Cyf. yn cynnig adeiladu Cyfleuster Adfer Ynni yn Llanwern, Casnewydd, tra bod Viridor Cyf. eisiau datblygu cyfleuster Troi Gwastraff yn Ynni ar Trident Park, Caerdydd.

Cynhelir cyfres o sesiynau gwybodaeth ledled y rhanbarth ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 7 Ionawr: Neuadd y Plwyf Awstin Sant, Penarth rhwng 10:00 a 13:30
  • Dydd Sadwrn 14 Ionawr: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd rhwng 10:00 a 14:00
  • Dydd Sadwrn 21 Ionawr: Neuadd y Pentref Llanwern rhwng 10:00 a 14:00
  • Dydd Sadwrn 28 Ionawr: Canolfan Hamdden Cil-y-coed rhwng 10:00 a 14:00
  • Dydd Sadwrn 4 Chwefror: Llyfrgell Rhisga rhwng 10:00 a 14:00

Meddai Stu Hodges, Swyddog Cyswllt Cymunedau Cynllun ‘Craff am Wastraff’:

"Yn y pen draw, dim ond un o’r cynigion ar gyfer trin gwastraff y de-ddwyrain na ellir ei ailgylchu a fydd yn cael ei ddewis gan y bartneriaeth, ac mae’n bwysig bod pobl ledled y rhanbarth yn derbyn cymaint o wybodaeth â phosibl.

"Dim ond un rhan o wasanaeth llawer ehangach yw adeiladu cyfleusterau newydd i drin gwastraff yng Nghymru. Cymru sydd â’r targedau ailgylchu uchaf yn y DU, a Chymru yw’r wlad gyntaf i sicrhau bod y targedau hyn yn statudol. Yn ogystal, Cymru yw’r wlad gyntaf i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ymyl y ffordd. Mae pob cyngor lleol wedi ymrwymo i gyrraedd targedau ailgylchu uchelgeisiol, a phan fydd pawb wedi gwneud eu cyfraniad trwy ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl, bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu rhoi ar waith

"Nod y prosiect hwn a phrosiectau tebyg eraill yng Nghymru yw canfod dulliau gwell o drin gwastraff na defnyddio safleoedd tirlenwi, sy’n anghynaladwy a chwbl anaddas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn annog unrhyw un yn y de-ddwyrain sy’n awyddus i ddysgu mwy am drin gwastraff na ellir ei ailgylchu i fynychu un o’r digwyddiadau gwybodaeth."

I ddysgu mwy am y prosiect ewch i www.prosiectgwyrdd.co.uk.