Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cyfradd ailgylchu Cymru yn parhau i godi

25 Maw 2011

Bookmark and Share

Yn ôl data a gyhoeddwyd heddiw, mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru yn parhau i godi. Dengys Adroddiad Rheoli Gwastraff Trefol, Hydref–Rhagfyr 2010 mai 42 y cant oedd y gyfradd ar gyfer ailgylchu a chompostio gwastraff trefol ar gyfer tri mis olaf 2010 - sef 5 y cant yn uwch na’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Hon yw’r gyfradd uchaf erioed ar gyfer y cyfnod hwn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr.  Yn draddodiadol, mae cyfraddau ailgylchu’r hydref a’r gaeaf yn is na rhai’r haf oherwydd bod llai o wastraff o’r ardd ar gael i’w gasglu ar gyfer compostio.

Bocs Ailgylchu

Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson, wedi croesawu’r cynnydd.  Dywedodd:  

"Mae’n wych gweld bod y gyfradd ailgylchu o fis Hydref hyd at fis Rhagfyr yn uwch nag ar gyfer yr un cyfnod mewn unrhyw flwyddyn flaenorol, yn enwedig pan rydyn ni’n ystyried y tywydd gwael a gafodd y rhan fwyaf o Gymru ym mis Rhagfyr.

"Hoffwn ddiolch i bawb – yn unigolion, yn awdurdodau lleol ac yn fusnesau ledled Cymru - sydd wedi gwneud cymaint dros y blynyddoedd diwethaf i leihau eu gwastraff ac i ailgylchu mwy.  Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i Gymru weithio tuag at fod yn genedl sy’n cynhyrchu dim gwastraff."

Un rheswm am lwyddiant ailgylchu Cymru yw’r ffaith bod pob awdurdod lleol yma, yn wahanol i unrhyw fan arall yn y DU, yn cynnig gwasanaeth ar wahân ar gyfer casglu bwyd neu gasglu bwyd a gwastraff gwyrdd.  Erbyn mis Rhagfyr 2010, roedd y gwasanaeth hwn wedi cyrraedd 80 y cant o gartrefi a bellach, mae sawl cyngor yn cynnig gwasanaethau casglu gwastraff i bob cartref.

Cyngor Bro Morgannwg yw un o’r cynghorau diwethaf i gyflwyno’r  gwasanaeth i bob cartref.  Mae Mared yn byw yn y Fro ac yn fam i dri o blant ac mae hi’n cefnogi compostio ac yn edrych ymlaen at fanteision casgliadau gwastraff bwyd wythnosol.  Dywedodd:

"Ers i ni gael y pecyn ar gyfer ailgylchu gwastraff cegin, mae’r bechgyn - Ioan, Dafydd a Gwyn, wedi bod yn awyddus iawn i’m helpu i lenwi’r biniau bach gyda gwastraff bwyd neu eitemau y mae eu dyddiad defnyddio wedi pasio.  Mae Gwyn yn dair oed ac fe gafodd degan yn anrheg Nadolig - lori ailgylchu; mae gofalu am ein hamgylchedd eisoes yn broses naturiol a phroses sy’n rhoi llawer o bleser i’r bechgyn, yn y cartref ac yn eu Eco-ysgol sef Ysgol Iolo Morganwg.

Mae teulu Mared eisoes yn compostio gwastraff llysiau, bagiau te a gweddillion coffi yn yr ardd ac yn falch iawn ei bod hi bellach yn bosibl i ailgylchu gwastraff bwydydd eraill fel esgyrn cig a physgod a bwyd sydd dros ben hefyd yn hytrach na’i fod yn gorfod mynd i safle tirlenwi.  Maent yn ceisio ailgylchu cymaint ag y gallant ac yn mwynhau hynny’n fawr ac os oes ganddynt eitemau nad oes eu hangen arnynt mwyach, maent yn eu rhoi i rywun arall neu i elusen. 


Yn gynharach y mis hwn, fe lansiodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd y Cynllun Sector Trefol ar gyfer Gwastraff trwy atgoffa’r cynghorau y byddant, o 2014 ymlaen, yn wynebu costau tirlenwi ychwanegol o £50 miliwn y flwyddyn os byddant yn parhau i anfon y lefelau gwastraff y maent yn eu cynhyrchu ar hyn o bryd i safleoedd tirlenwi.  Cymru yw’r unig wlad yn y DU i gyflwyno targedau statudol ar gyfer gwastraff trefol; y dasg gyntaf yw cyrraedd targed o 52 y cant yn 2012 -2013.

Gallwch ddarllen Adroddiad Rheoli Gwastraff Trefol, Hydref–Rhagfyr 2010 yn ogystal â’r Cynllun Sector Trefol, yn www.cymru.gov.uk/gwastraff.