Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Beth am siarad sbwriel!
15 Gorff 2010Mae trigolion Cymreig yn cael eu hannog i ‘siarad sbwriel’ am yr hyn sy’n digwydd i’w gwastraff. Erbyn hyn, gall pobl fynd ar-lein i ddweud wrth Llywodraeth y Cynulliad beth maen nhw’n ei feddwl am y cynigion newydd ar sut i gasglu sbwriel yng Nghymru.
Mae Cynllun Craff am Wastraff yn cefnogi’r ymgais i annog mwy o bobl gyffredin i ymuno â’r drafodaeth, sydd hefyd yn cynnwys awdurdodau lleol. Meddai Rachel Jowitt, Pennaeth Cymorth Gwastraff Cynllun Craff am Wastraff:
"Yn aml, yn achos y gwasanaethau a ddarperir gan ein hawdurdodau lleol, mae pobl yn poeni fwyaf am yr hyn sy’n digwydd i’w sbwriel. Dyna pam mae’r ymgynghoriad hwn mor bwysig.
"Rwy’n gwybod bod pobl yn teimlo’n gryf iawn am beth allan nhw ei daflu, ac am ba mor aml mae eu biniau’n cael eu gwacáu. Dyna pam mae Cynllun Craff am Wastraff yn dweud wrth bobl: os ydych chi’n teimlo’n gryf am unrhyw beth, dyma gyfle ichi ddweud eich dweud.
"Os ydyn ni am gyrraedd y targedau heriol sydd o’n blaenau ac osgoi talu treth tirlenwi, rhaid inni gyd wneud pethau’n wahanol. Mae’n hanfodol bod unrhyw gynlluniau’n cymryd barn bobl i ystyriaeth, a dyna pam rydym yn annog trigolion Cymreig i ymweld â’r wefan i ddweud eu dweud."
Ar 21 Mehefin, lansiodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, gynllun gwastraff newydd i Gymru, sef Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Roedd hyn yn mynd law yn llaw â dechrau’r ymgynghoriad ar y Cynllun Sector Dinesig, sy’n rhoi sylw i sut mae cynghorau’n ymdrin â gwastraff cartref. Gellir gweld yr ymgynghoriad ar www.wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/municipalsector/?skip=1&lang=cy ac mae ar agor tan 13 Medi 2010.


