Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
ARBEDWCH ARIAN TRWY SIOPA'N GRAFFACH
22 Mehef 2010
Mae Cynllun 'Craff am Wastraff' yn cynghori pobl Cymru i ystyried y ffordd maen nhw'n siopa ac osgoi taflu pethau mae modd eu cyfnewid i leddfu effaith cyllideb Canghellor y Trysorlys.
Bydd pob teulu yng Nghymru yn gwastraffu bwyd gwerth £50 bob mis ar gyfartaledd. Ar ben hynny, bydd llawer ohonon ni'n colli rhagor o arian trwy brynu pethau newydd sbon yn hytrach na rhai ail-law a thaflu pethau dieisiau yn hytrach na'u gwerthu neu eu cynnig i elusen neu gylch cymunedol.
Dyma awgrymiadau Cynllun 'Craff am Wastraff' o ran arbed arian:
- Paratoi rhestr siopa a chadw ati, yn arbennig wrth brynu bwyd fel na fyddwch chi'n prynu pethau diangen y bydd rhaid eu taflu wedyn.
- Llogi unrhyw beth na fyddwch chi'n defnyddio mwy na phum gwaith, yn hytrach na'i brynu – gan gynnwys offer adeiladu/garddio a dillad ar gyfer achlysuron arbennig.

- Bod yn fodlon gwisgo dillad ail-law. Yn aml, bydd yn fwy ffasiynol gwisgo hen ddillad unigryw mewn parti na gwisgo'r un fath â phawb arall. Felly, dylech chi chwilio siopau elusennau yn hytrach na'r siopau mawr i ddod o hyd i ddillad fydd yn creu argraff heb chwalu'ch cyllideb.
- Cynnal ymchwil ar y we cyn prynu unrhyw beth costus i ofalu eich bod yn cael y fargen orau. Yn ddelfrydol, dylech chi ddewis nwyddau hawdd a rhad eu trwsio a fydd yn para, yn hytrach na rhai y bydd angen eu taflu.
- Bod yn effro i werth eich sbwriel. Fe synnech chi beth mae pobl am wario eu harian arno ac, felly, byddai'n syniad da casglu'r pethau nad oes eu heisiau arnoch chi mwyach a'u gwerthu trwy Ebay neu o gist eich car.
Meddai Georgina Taubman, arbenigwr Cynllun 'Craff am Wastraff' ynglŷn â siopa'n graff ac ailddefnyddio:
"Mae pawb yn gwybod bod y sefyllfa ariannol yn anodd ar hyn o bryd ond, yn aml, dydyn ni ddim yn sylweddoli bod sawl ffordd o leddfu hynny. Gallech chi arbed llawer o arian dim ond trwy newid eich arferion ychydig.
Rwy'n annog pobl i bwyllo cyn siopa achos ein bod ni'n gwario gormod ar bethau na fyddwn ni byth yn eu defnyddio. Dylech chi fenthyg, cyfnewid a llogi pethau lle bo'n bosibl, neu brynu nwyddau ail-law – a pharatoi rhestr cyn mynd i brynu bwyd. Os gwnewch chi hynny, bydd modd cael gafael ar bopeth mae'i angen arnoch chi a chadw at eich cyllideb.
Rwy'n hoffi siopa ar-lein yn fawr ond rwy'n gwerthu hen ddillad ar y we bellach yn hytrach na phrynu rhai newydd na fydda i'n eu gwisgo'n aml. Bydda i'n rhoi cyfle i rywun arall fwynhau'r dillad nad ydw i'n eu defnyddio mwyach hefyd, yn ogystal â chwtogi ar wastraff."


