Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

NEWID UN PETH AR GYFER WYTHNOS AILGYLCHU 2010

18 Mehef 2010

Bookmark and Share

Mae ailgylchu wedi cynyddu'n fawr yng Nghymru dros y degawd diwethaf ond, yn ei strategaeth sydd i'w chyhoeddi ar 21ain Mehefin, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ein hannog i ailgylchu rhagor eto.

Mae Cynllun 'Craff am Wastraff' yn atgoffa pobl y gallai hyd yn oed newid bach effeithio'n fawr ar lefelau'r gwastraff. Mae staff y cynllun yn annog pobl Cymru i dderbyn un o'r awgrymiadau isod ar gyfer Wythnos yr Ailgylchu:Newspapers & Magazines

  • Peidiwch ag ailgylchu yn y gegin yn unig. Cofiwch ddidoli'ch gwastraff ym mhob ystafell o'r tŷ, gan gynnwys yr ystafell ymolchi.
  • Os oes gwasanaeth casglu bwyd gwastraff ar gael, defnyddiwch e. Os nad oes gwasanaeth o'r fath, mae gwybodaeth am gompostio gartref ar: Compostio Gartref
  • Mae modd ailgylchu'r papurau newydd i gyd ac, felly, does dim rheswm dros eu rhoi nhw yn y bin.
  • Rhaid cael gwared ar hen nwyddau trydanol yn briodol.  Cysylltwch â'r siop lle prynoch chi'r offer i gael gwybod a fydd yn derbyn yr hen rai.  Ar y llaw arall, mae gwybodaeth am y cyfleusterau sydd yn eich ardal ar: http://banklocator.wasteawarenesswales.org.uk.
  • Dewch i arfer â bagiau siopa y gallwch chi eu hailddefnyddio.  Bydd y siopau'n codi tâl am fagiau plastig o'r gwanwyn nesaf ac, felly, mae'n syniad da ichi ddechrau defnyddio bag siopa go iawn.

Meddai Rachel Jowitt, Pennaeth Cymorth Materion Gwastraff, Cynllun 'Craff am Wastraff':

"Mae pobl Cymru wedi cydio yn y syniad o ailgylchu dros y blynyddoedd diwethaf hyn.  Dyw hynny ddim yn syndod achos bod ailgylchu'n hawdd ac yn fanteisiol iawn i'r amgylchedd.

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n ailgylchu yn barod, ond rhaid inni wneud rhagor ac Wythnos yr Ailgylchu fydd yr adeg briodol i ddechrau.  Os newidiwn ni un peth bach, gallwn ni effeithio'n fawr ar y sefyllfa, a dyna pam rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru gymryd rhan."