Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cynghorau Cymru wrthi'n paratoi ar gyfer Wythnos yr Ailgylchu
11 Mehef 2010Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn hyrwyddo Wythnos Ailgylchu 2010 ar y cyd â Chynllun 'Craff am Wastraff'.
Bydd nifer o achlysuron ledled y wlad rhwng 21ain a 27ain Mehefin, megis:
- Sioe ffasiwn ym Merthyr Tudful i gyflwyno dillad sydd wedi'u hailgylchu.
- Sioe Deithiol 'Caru Bwyd, Casáu Gwastraff' yn ystod Wythnos Pysgod Sir Benfro yn Ninbych y Pysgod.
- Cyflwyno arbrawf ynglŷn â bwyd gwastraff yn ysgolion Wrecsam.
- Siop gyfnewid, diwrnod trwsio beiciau ac arwerthiant celfi yn Abertawe.
Yn ystod yr wythnos, bydd awdurdodau lleol yn atgoffa pobl ei bod yn hawdd cael gwared ar hen nwyddau trydanol yn briodol a bod modd cwtogi ar gostau a gwastraff fel ei gilydd trwy siopa'n graffach.
Meddai Rachel Jowitt, Pennaeth Cymorth Materion Gwastraff, Cynllun 'Craff am Wastraff':
"Mae Cynllun 'Craff am Wastraff' yn croesawu gwaith dyfal yr awdurdodau lleol ynglŷn â hyrwyddo Wythnos Ailgylchu 2010 yn frwd. Rhaid cwtogi ar wastraff drwy gydol y flwyddyn, fodd bynnag, nid dim ond yn ystod Wythnos yr Ailgylchu, a dyna pam rydyn ni'n atgoffa pobl i ddefnyddio'n chwiliadur ni (www.wasteawarenesswales.org.uk) i ddod o hyd i gyfleusterau ailgylchu yn eu hardaloedd nhw."
Bydd y Gweinidog dros Faterion yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, yn cyflwyno strategaeth newydd Cymru ar gyfer materion gwastraff, 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', ddechrau Wythnos yr Ailgylchu. Meddai:
"Er mwyn inni wireddu'n huchelgais ynglŷn ag ailgylchu 70% o'n gwastraff erbyn 2025 a bod yn genedl heb wastraff erbyn 2050, rhaid inni i gyd gymryd rhan. Felly, mae'n galonogol gweld bod awdurdodau lleol Cymru wedi trefnu cynifer o weithgareddau ar gyfer Wythnos yr Ailgylchu.
I arbed gwastraff, mae eisiau gwneud mwy na dim ond ailgylchu, fodd bynnag. Rhaid inni feddwl yn ofalus am beth rydyn ni'n ei brynu a beth rydyn ni'n ei daflu, gan roi pethau dieisiau i'n ffrindiau a'n cymdogion yn hytrach na'u dodi yn y bin. Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru wneud ei orau glas i gwtogi ar wastraff fel y bydd Cymru yn lle teilwng i'n plant a'u plant nhw."


