Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Llywodraeth Cynulliad Cymru Datganiad i'r wasg: Disgwyl cwymp yn y defnydd o fagiau siopa untro yn sgil codi 7c o dâl
3 Mehef 2010Mae’r tâl gorfodol, sydd wedi cael ei ysgogi gan Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd Cymru, yn cael ei gyflwyno i leihau’n sylweddol y nifer o fagiau siopa untro sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae mwy na 400 miliwn o fagiau siopa untro yn cael eu dosbarthu i siopwyr Cymru bob blwyddyn.
Yn y diwedd, mae’r rhan fwyaf o’r bagiau hyn yn cael eu gadael fel gwastraff yng nghefn gwlad neu mewn safleoedd tirlenwi, lle maen nhw’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr i’r amgylchedd ac yn cymryd rhwng 500 a 1000 o flynyddoedd i bydru.
Mae’r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno tâl o saith ceiniog er mwyn trawsnewid arferion siopa ac i leihau'r nifer o fagiau siopa untro defnyddiwyd yng Nghymru.
Wrth siarad am y mater hwn, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd:
"Mae bagiau siopa yn symbol eiconig o’r gymdeithas wastraffus yr ydym yn rhan ohoni. Er fy mod i’n sylweddoli nad yw lleihau ein defnydd o fagiau siopa untro yn mynd i ddatrys ein holl broblemau amgylcheddol, mae’r tâl yn trosglwyddo neges bwysig am yr angen i fyw mewn modd llawer mwy cynaliadwy.
"Rwyf i o’r farn bod y tâl saith ceiniog yn ddigon uchel i annog pobl i newid eu harferion siopa ond nad yw’n rhy uchel i atal pobl rhag siopa ar hap, ac na fydd yn faich sylweddol pan fydd rhywun wedi anghofio eu bagiau amldro.
"Rwy’n hyderus y bydd pobl Cymru yn croesawu’r tâl am fagiau siopa, ac yn ei ystyried fel cam cadarnhaol tuag at warchod ein cefn gwlad prydferth a helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.
Dywedodd y Gweinidog hefyd:
"Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i unrhyw un dalu; mae modd osgoi gwneud hynny os gofiwn ni gario bagiau amldro gyda ni pan fyddwn yn mynd i siopa."
Bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd yng Ngŵyl y Gelli yn hwyrach heddiw i lansio ail ymgynghoriad ar y tâl am fagiau siopa. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am ymateb i fanylion y tâl, gan gynnwys:
- tâl o 7c ar gyfer pob bag siopa untro – a hynny os yw wedi’i wneud o blastig neu bapur
- eithriadau o ran mathau penodol o fagiau sy’n cael eu defnyddio i gario bwydydd heb eu lapio neu feddyginiaethau o fferyllfeydd
- cytundeb gwirfoddol gyda siopwyr i sicrhau bod yr elw a fydd yn cael ei gynhyrchu o ganlyniad i’r tâl yn cael ei drosglwyddo i brosiectau amgylcheddol neu gymunedol ac achosion da.
Mae modd gweld yr ymgynghoriad hefyd drwy gyfrwng Sky a theledu digidol Virgin, drwy Nintendo Wii neu ffôn symudol. Mae hyn yn golygu y bydd pobl yn gallu dweud eu barn wrthym o’u cartrefi, neu pan fyddant allan.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Awst 2010.


