Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Rhieni dros Gymru yn defnyddio cewynnau go iawn yn sgil y wasgfa ariannol

31 Maw 2010

Wrth i Wythnos Cewynnau Go Iawn nesáu, mae’r cynllun Craff am Wastraff yn annog rhieni i arbed arian a lleihau gwastraff trwy ddefnyddio cewynnau go iawn ar eu babanod yn hytrach na chewynnau tafladwy.

Real Nappy Campaign Image 7 (bordered) smallMae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn cefnogi Wythnos Cewynnau Go Iawn, rhwng 26 Ebrill a 2 Mai 2010. Mae’r ymgyrch flynyddol hon yn rhoi cyfle i bawb ddysgu am gewynnau go iawn. a gweld pa mor hawdd yw eu defnyddio ar eu plant. Bydd pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu trefnu ledled Cymru.

Gydol yr wythnos, bydd gwerthwyr lleol cewynnau go iawn ac awdurdodau lleol yn cydweithio i hyrwyddo manteision defnyddio cewynnau go iawn. Cynhelir digwyddiadau fel Nappucinos (bore coffi a chewynnau) er mwyn codi ymwybyddiaeth o gewynnau y gallwch eu golchi, a sut gall rhieni Cymru arbed arian a chwtogi ar wastraff yr un pryd.

Meddai Rachel Jowitt, pennaeth cymorth gwastraff, cynllun ‘Craff am Wastraff’:

"Ers dechrau’r dirwasgiad, mae mwy a mwy o rieni wedi chwilio am ffyrdd rhatach o ofalu am eu plant, gan gynnwys pa gewynnau i’w dewis a’u defnyddio.  Mae rhieni’n dechrau sylweddoli fod cewynnau cotwm go iawn yn ddewis naturiol, hawdd a chost-effeithiol o gymharu â rhai tafladwy – a tydyn nhw ddim yn costio crocbris!

"Erbyn y bydd y baban yn defnyddio’r toiled, byddwch wedi defnyddio 5,000 o gewynnau - sef llond 150 o fagiau sbwriel du sy’n mynd i safle tirlenwi, a byddant yno am gannoedd o flynyddoedd.  Er hynny, y manteision ariannol nid amgylcheddol sy’n sbarduno llawer o rieni i ddefnyddio cewynnau go iawn.  Gallwch arbed £500 trwy ddefnyddio cewynnau go iawn gyda’ch plentyn cyntaf, a hyd yn oed mwy wedyn gyda’ch plant dilynol.  Byddwch yn lleihau gwastraff ac yn arbed arian, sy’n hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni."

"Mae cewynnau go iawn wedi datblygu’n aruthrol ers y tro diwethaf i lawer o bobl eu defnyddio, ac rydyn ni eisiau dangos cymaint maen nhw wedi newid.  Heddiw, does dim sôn am bin cau cewyn - ond yn hytrach patrymau a chynlluniau lliwgar mewn siâp ‘cewyn’, sy’n cau’n sownd gyda felcro neu bopwyr - sy’n golygu eu bod yn hawdd i’w defnyddio a ffasiynol dros ben."

Am ragor o wybodaeth a rhestr lawn o’r digwyddiadau, ewch i wefan Cewynnau Go Iawn Cymru: www.realnappies-wales.org.uk

Ffeithiau go iawn am gewynnau go iawn

  • Yng Nghymru, caiff 200 miliwn o gewynnau papur eu taflu bob blwyddyn – 400 cewyn y funud
  • Mae baban yn defnyddio rhwng 4,000 a 6,000 o gewynnau cyn dysgu defnyddio’r toiled
  • Gallwch arbed hanner costau cewynnau papur trwy ddefnyddio rhai go iawn – a gallwch eu hailddefnyddio gyda’ch babanod dilynol i arbed hyd yn oed mwy o arian
  • Gallwch haneru eich gwastraff trwy ddefnyddio cewynnau go iawn ar gyfer eich plentyn cyntaf.
  • Bydd holl gewynnau tafladwy un baban yn llenwi tua 156 o fagiau sbwriel du

Bookmark and Share