Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Dyfodol Eco I Briodasau Yng Nghymru

26 Maw 2010

Gyda’r tymor priodasau’n prysur agosáu, bydd llawer o barau wrthi’n cynllunio’u diwrnod mawr a chadw llygad ar y geiniog. 

Mae Cynllun Craff am Wastraff (WAW) yn gynnig rhai camau syml a hawdd sy’n helpu parau i wario llai a mwynhau diwrnod gwyrdd gan greu llai o wastraff.

Meddai Rachel Jowitt ar ran Cynllun 'Craff am Wastraff' "Gan fod sêr fel Scarlett Johansson a Ryan Reynolds yn dewis priodi mewn canolfan-eco yng Nghanada, mae priodasau gwyrdd wedi hen ennill eu plwyf yn Hollywood ac, fel unrhyw ffasiwn newydd o’r fath, bydd pobl gyffredin yn siŵr o’i dilyn cyn pen dim, felly mae’r dyfodol yn edrych yn addawol dros ben i briodasau ecogyfeillgar.

"Mae mwy a mwy o barau’n gohirio eu priodas am eu bod yn methu fforddio talu amdani, ond rydym ni’n cynnig cyngor ar gyfer priodasau gwyrdd a fydd yn helpu i arbed arian a lleihau’r gwastraff a gynhyrchir ar y diwrnod mawr. Er enghraifft, trwy gynnal eich seremoni a’ch brecwast yn yr un lleoliad, ni fydd angen i chi drefnu cludiant.

"Mae’n hawdd cynnwys yr awgrymiadau ecogyf

 

eillgar a chost-effeithiol hyn yn eich trefniadau, beth bynnag yw thema’ch priodas, a gallan nhw hefyd annog eich gwesteion i fyw eu bywydau mewn ffordd sy’n fwy ymwybodol o wastraff."

Eco Weddings

Awgrymiadau ar gyfer priodas gost-effeithiol a gwyrdd:

  • Gwahoddiadau - Beth am anfon e-wahoddiadau? Yn ogystal â bod yn hynod gost-effeithiol, trwy fod yn greadigol gallwch eu gwneud yn bersonol hefyd. Beth am recordio clip fideo a chynnwys dolenni gwe? Beth am ddefnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook i greu tudalen ar gyfer eich priodas? Gallech ddefnyddio’r dudalen hon i wahodd eich ffrindiau a’u hannog i gyfnewid straeon a lluniau a dod i adnabod ei gilydd cyn y diwrnod mawr.
  • Y siwt a’r ffrog – Gall gwisg briodas gostio ffortiwn, yn enwedig o ystyried mai dim ond unwaith y byddwch chi’n gwisgo’r ffrog. Mae yna lwyth o gwmnïau a gwefannau lle mae modd llogi popeth o’r siwt a’r ffrog briodas i esgidiau, cyfwisgoedd ac addurniadau ar gyfer y lleoliad. Mae dillad vintage yn dal i fod yn boblogaidd tu hwnt yn y byd ffasiwn, felly beth am fynd i wefannau a siopau elusennol/ail law i chwilio am y dillad fforddiadwy perffaith?
  • Lleoliad – Meddyliwch y tu hwnt i leoliadau traddodiadol. Ystyriwch fannau lleol unigryw fel gerddi botaneg, amgueddfeydd, orielau celf neu adeiladau hanesyddol. Ceisiwch gynnal eich seremoni a’ch brecwast yn yr un lleoliad i leihau costau ac allyriadau trafnidiaeth.
  • Bwyd a diod – Gofynnwch i’ch arlwywyr osgoi defnyddio platiau, cwpanau a napcynnau papur er mwyn creu llai o wastraff. I leihau milltiroedd bwyd, cefnogwch gynhyrchwyr lleol trwy ddewis bwydlen sy’n defnyddio bwydydd yn eu tymor. Gofynnwch am finiau ailgylchu ar gyfer yr holl boteli gwydr yn eich brecwast.
  • Teithio – Os oes rhaid i’ch gwesteion deithio i’ch priodas, trefnwch gynllun rhannu car neu awgrymwch eu bod yn defnyddio trafnidiaeth fwy ecogyfeillgar fel y trên.
  • Cardiau – Gofynnwch i westeion anfon eu cyfarchion mewn e-gerdyn i arbed papur. Edrychwch ar wefan Cynllun Craff am Wastraff i weld e-gardiau dyweddïo a phriodas – www.craffamwastraff.org.uk/e-cards
  • Anrhegion – Yn lle gofyn i bobl am eitemau ar gyfer y cartref allai fod gennych chi eisoes, beth am ofyn am dalebau teithio neu, os ydych chi’n teimlo’n hael, gofynnwch am gyfraniad at eich hoff elusennau? Neu, er mwyn cael atgof byw o’ch priodas, beth am ofyn i’ch gwesteion blannu planhigion, coed neu flodau sy’n para am flynyddoedd ac yn ychwanegu rhywfaint o ocsigen at yr aer.
  • Conffeti – trefnwch fod conffeti bioddiraddiadwy ar gael ar gyfer eich gwesteion – mae digon ar gael mewn siopau. Gallwch ddefnyddio conffeti naturiol fel petalau blodau wedi’u casglu o siop flodau leol a fyddai wedi eu taflu fel arall yn lle conffeti papur traddodiadol.
  • Blodau – Gallwch leihau’r gwastraff a’r llygredd a gynhyrchir wrth gludo a mewnforio blodau trwy ddefnyddio blodau a dyfir yn lleol o farchnadoedd ffermwyr a, thrwy ddechrau cynllunio rai misoedd ymlaen llaw, gallwch hyd yn oed blannu bylbiau yn eich gardd eich hun. Os oes blodau’n weddill ar ôl y diwrnod mawr, gallech eu rhoi i ysbyty neu gartref preswyl lleol.
  • Lluniau’r briodas – Yn hytrach na thalu i’w hargraffu dro ar ôl tro, rhowch eich lluniau priodas ar CD neu, gwell byth, beth am eu lanlwytho i wefan. Bydd hyn yn osgoi gwastraff a chostau ychwanegol trwy eu rhannu mewn e-bost neu eu lanlwytho i wefan rhannu ffotograffau fel Flickr (www.flickr.com). Chwiliwch am albym priodas masnach deg neu albym wedi’i wneud o gerdyn/papur wedi’i ailgylchu.
  • Ffafrau priodas gwyrdd – Yn lle cyflwyno bocsys bach o siocled i’ch gwesteion, beth am roi rhywbeth anghyffredin iddynt? Dyma rai syniadau:
    • Bylbiau: Rhowch fylbiau mewn bagiau bach del (fel mwslin naturiol, jiwt wedi’i lifo â llaw neu fwrlap) gan roi monogram neu lun o’r blodyn ar y blaen).
    • Blodau mewn pot: Os gallwch gael gafael ar botiau clai neu botiau bach, gallwch roi cynnig ar dyfu’ch blodau’ch hun ar gyfer eich priodas, fel y pabi, tegwch y bore, llygad dydd Shasta, melyn Mair neu flodyn haul Mecsicanaidd. Bydd y blodau hardd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ystafell frecwast ac yn gwneud ffafrau gwych. Rhowch unrhyw botiau dros ben i ffrindiau, teulu neu gymdogion.
    • Pecynnau o hadau: Gallwch gynllunio ac argraffu’ch labeli’ch hun.
    • Ffafrau blasus – Beth am brynu bisgedi personol wedi’u haddurno a’u pobi â llaw. Gallai’r bisgedi ddynodi lle eistedd y gwestai gan osgoi defnyddio cerdyn.

 Bookmark and Share