Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Dewiswch anrhegion gwyrddach y Pasg hwn
15 Maw 2010Gyda thua 80 miliwn o wyau siocled yn debyg o gael eu prynu yn y DU y Pasg hwn, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ i annog defnyddwyr i geisio lleihau’r deunydd pacio gwastraff sy’n cael ei greu gan yr wyau siocled hyn.
Meddai Rachel Jowitt ar ran Cynllun 'Craff am Wastraff' "Er nad ydym am atal mwynhad siocled-garwyr, mae’n rhaid i ni bwysleisio’r ffaith bod rhan fwyaf o ddeunydd pacio wyau Pasg yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi.
"Dim ond tua wyth mlynedd o ofod tirlenwi sydd ar ôl yng Nghymru, a dyna pam rydym yn gofyn i siopwyr ystyried hyn wrth brynu wyau Pasg. Eleni, beth am ddewis wyau heb ormod o ddeunydd pacio fel y rhai sydd wedi’u lapio mewn ffoil yn unig. Yr un yw’r blas, ond fe fyddwch chi’n gwneud eich rhan dros yr amgylchedd trwy wneud hyn.
"Mae’n bosibl ailgylchu unrhyw wastraff pacio fydd gennych, yn cynnwys cardbord a phapur, yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Os nad ydych yn siŵr, mae’n werth edrych ar wefan cynllun ‘Craff am Wastraff’ i ganfod eich banc ailgylchu agosaf.
"Os ydych chi am fod yn wyrdd iawn, anghofiwch wyau Pasg o’r siop a cheisiwch wneud eich danteithion cartref eich hun fel nythod siocled i’w rhoi fel anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu."
Am fwy o awgrymiadau ar gyfer arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu, ac i ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf, ewch i wefan cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn www.craffamwastraff.org.uk
Awgrymiadau cynllun ‘Craff am Wastraff’ ar gyfer osgoi deunydd pacio ychwanegol y Pasg hwn:
1) Trefnwch helfa wyau Pasg, a chuddio wyau siocled bach wedi’u lapio mewn ffoil o gwmpas y tŷ a’r ardd. Yn ogystal â bod yn hwyl, mae’r wyau bach yn defnyddio llai o ddeunydd pacio na wyau mawr.
2) Ceisiwch brynu wyau neu siocled gyda chyn lleied o ddeunydd pacio â phosibl - boed yn wy neu gwningen wedi’i lapio’n syml mewn ffoil, mae yna sawl dewis amgen i wy wedi’i lapio mewn ffoil, plastig a chardbord.
3) Os na allwch chi osgoi ildio i demtasiwn y bocsys mawr, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ailddefnyddio’r cardbord a’r plastig – er enghraifft gellir defnyddio’r gragen blastig fel mowld ar gyfer wyau Pasg cartref y flwyddyn nesaf neu gellir defnyddio’r ffoil mewn collage lliwgar.
4) Byddwch yn gymydog poblogaidd drwy bobi nythod creision ŷd siocled neu deisen Basg draddodiadol. Cofiwch gompostio plisgyn unrhyw wyau a ddefnyddiwyd ar gyfer y deisen ynghyd â’r bocs wyau cardbord!


