Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Môr o gariad ar Ddydd Santes Dwynen a Dydd Sant Ffolant

15 Ion 2010

Gyda Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant ar y gorwel, bydd llawer o Gymry rhamantus yn anfon cerdyn neu brynu anrheg i’w cariad neu gymar.Rose

Eleni, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog cyplau i ddangos eu cariad gyda syniadau rhamantus hen ffasiwn i arbed arian a diogelu’r amgylchedd yr un pryd.

Yn lle prynu tusw o flodau drud wedi’i lapio’n ddel a siocledi â’u holl ddeunydd pacio, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ wedi awgrymu ambell i ffordd o sbwylio rhywun heb greu pentwr o sbwriel.

Meddai Rachel Jowitt, ar ran Cynllun 'Craff am Wastraff' "Does dim rhaid i anrhegion rhamantus ac arbennig fod yn ddrud felly ceisiwch feddwl am anrhegion gwahanol eleni er mwyn i chi arbed arian, a lleihau’r gwastraff rydych yn ei gynhyrchu.

"Os nad ydych am anfon e-gerdyn a’ch bod am brynu cerdyn o siop, dewiswch un a wnaed o bapur wedi’i ailgylchu. Dylai nodi hynny ar gefn y cerdyn.

"Beth am roi anrheg ‘diwastraff’ fel diwrnod allan yn rhywle, tocynnau i weld grŵp neu sioe, neu daith gerdded ramantus yn y wlad.

"Os ydych am arddangos eich sgiliau coginio, enillwch galon eich cariad neu gymar trwy goginio ei hoff bryd gartref. Byddwch yn gwario llai ac yn arbed mwy trwy greu gwledd arbennig dim ond i chi’ch dau.

"Syniad gwych arall yw creu tocynnau cariad gydag addewid o driniaeth tylino’r corff neu frecwast yn y gwely bob diwrnod am wythnos.

"Er bod rhywun yn werth y byd yn grwn i chi, does dim angen dangos hynny’n llythrennol. Trwy ystyried effaith ein hanrhegion ar yr amgylchedd, gallwn ddangos ein bod yn meddwl y byd o’n hanwyliaid a’n planed."

Dyma rai ffyrdd o ddangos eich bod yn caru’r amgylchedd wrth feddwl am anrheg i’ch cariad neu gymar:  

  • Am gerdyn gwyrdd, prynwch un a wnaed o bapur wedi’i ailgylchu neu gallwch fod yn fwy personol a gwneud eich cerdyn eich hun.

  • Mae gwefan www.greenglassmountain.com  yn darparu anrhegion ecogyfeillgar fel calonnau gwydr wedi’u hailgylchu.

  • Os ydych chi’n prynu siocledi, ceisiwch osgoi’r rhai gyda llawer o ddeunydd pacio, neu gwnewch rai eich hun gartref.

  • Tusw o flodau yw un o’r ffyrdd mwyaf traddodiadol o ddangos eich cariad ar Ddydd Santes Dwynwen neu Ddydd Sant Ffolant – ond cofiwch brynu’n lleol i leihau’r deunydd pacio a milltiroedd teithio sy’n gysylltiedig â chwmnïau blodau ar-lein.

  • Er bod modd compostio blodau, am ddewis a fydd yn para’n hirach, ewch am blanhigyn del fel llwyn bach o rosod neu degeirian a fydd yn parhau i dyfu.

  • Byddwch yn greadigol a meddyliwch am ffyrdd o greu argraff ar eich cariad neu gymar fel coginio pryd o fwyd gartref neu wneud ei hoff gacen. Cofiwch ailgylchu neu gompostio unrhyw fwyd dros ben!

  • Syniadau eraill diwastraff fyddai penwythnos i ffwrdd, trip i’r sinema, taith gerdded ramantus ar hyd yr arfordir neu docynnau i weld sioe.

  • Beth am roi anrheg dychmygus a moesegol o gynllun ‘unwrapped’ Oxfam: www.oxfam.org.uk/unwrapped

  • Yn lle prynu CD wedi’i lapio mewn deunydd pacio plastig, beth am docyn anrheg ar-lein er mwyn iddyn n09:27 15/01/2010hw allu lawrlwytho’r albwm i’w chwaraewr MP3?

rose horizontal

Bookmark and Share