Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Beth am ddifetha’r teulu dros y Nadolig – nid yr amgylchedd
9 Rhag 2009Mae Craff am Wastraff yn annog cartrefi i fod yn gyfrifol yn ystod y Nadolig eleni wrth waredu hen ddyfeisiau a gemau cyfrifiadurol.
Gyda disgwyl i’r DU wario £7.3 biliwn ar nwyddau trydanol erbyn y Nadolig eleni, mae arolwg newydd gan Recycle Now wedi datgelu bod mwy na thraean ohonom ni (35 y cant) yn dal i gredu na allwn ailgylchu nwyddau trydanol ac electronig bach, fel tegelli, gemau cyfrifiadurol, ffonau ac offer pŵer ar gyfer yr ardd.
Mae ein hen setiau teledu, cyfrifiaduron, ffonau symudol, offer pŵer a theganau electronig yn cyfrannu at yr 1.8 miliwn tunnell o Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff a gynhyrchir yn y DU bob blwyddyn.
Mae’r arolwg o 1,500 o oedolion yn y DU hefyd yn datgelu bod ychydig llai na 30 y cant ohonom ni’n taflu eitemau sydd wedi torri neu nad ydym eu hangen gyda’r sbwriel, ond byddai ailgylchu’r eitemau hyn yn arallgyfeirio 100,000 tunnell o nwyddau trydan gwastraff gwerthfawr o safleoedd tirlenwi’r DU bob blwyddyn, sy’n pwyso cymaint â 14,000 bws deulawr.
Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff yw un o’r ffynonellau gwastraff mwyaf niweidiol a anfonir i safleoedd tirlenwi gan eu bod yn cynnwys sylweddau peryglus fel mercwri, plwm, beryliwm a chadmiwm. Wrth eu tirlenwi, mae’r sylweddau hyn yn cael eu rhyddhau i’r tir ac yn llygru’r ardal gyfagos.
Drwy gadw hen Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff cartref gellir ei drin, gellir cael gwared ar y sylweddau peryglus a gellir ailgylchu llawer ohono yn hytrach na’i dirlenwi.
Gyda’r Nadolig yn agosáu, bydd llawer o unigolion lwcus yn derbyn gemau cyfrifiadurol, cyfrifiaduron a dyfeisiau trydanol eraill newydd sbon a all achosi problemau o ran cael gwared ar unrhyw hen gyfarpar trydanol segur yn gyfrifol.
Meddai Owain Griffiths o gynllun ‘Craff am Wastraff’ "Rydym ni’n annog pobl i beidio â
thaflu eu hen ffonau symudol, teganau trydanol, offer pŵer, tegelli neu dostwyr gyda’r sbwriel cyffredinol. Os yw pethau’n parhau fel y maent ar hyn o bryd, ni fydd lle ar ôl i dirlenwi yng Nghymru ymhen wyth mlynedd. Yn hytrach na’u taflu, meddyliwch a allwch eu rhoi neu eu cyfnewid gyda pherthnasau neu ffrindiau. Os nad yw hynny’n bosibl, beth am roi cynnig ar eu gwerthu, neu eu rhoi ar wefan gyfnewid fel Freegle neu Gumtree.
"Mae llawer o adwerthwyr trydanol mawr yn darparu cynlluniau cymryd-yn-ôl lle byddant yn cymryd yr eitem nad ydych chi am ei chadw. Os nad ydynt yn gwneud hynny, dylent o leiaf eich cynghori ar y cyfleuster agosaf i ailgylchu’ch hen eitem.
"Os ydych chi’n gorfod cael gwared ar eitem, dylech holi i weld a ellir ei hailddefnyddio neu ei hailgylchu – mae’r mwyafrif o eitemau trydanol yn cynnwys bob math o ddeunyddiau gwerthfawr y gellid eu defnyddio wrth gynhyrchu cynhyrchion eraill.
"Mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol yn cynnig cynllun ailgylchu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff gan ddarparu cyfleusterau casglu dynodedig lle gall y cyhoedd fynd â’u hen nwyddau trydanol i’w hailgylchu. I ganfod lle mae’ch cyfleuster agosaf, defnyddiwch y chwiliwr safleoedd yn: http://tinyurl.com/yh7l4gw


