Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cymru’n uno gydag ymdrech Ewrop i leihau gwastraff

19 Tach 2009

Fel rhan o’r Wythnos Ewropeaidd Lleihau Gwastraff (EWWR) gyntaf erioed, anogir pobl ar draws Cymru i wneud eu gorau i helpu’r amgylchedd yr wythnos hon (21-27 Tachwedd 2009).

Drwy gydol yr wythnos, trefnwyd gweithgareddau ar draws Ewrop i addysgu defnyddwyr am bwysigrwydd lleihau gwastraff a’u hannog i wneud eu gorau i leihau’r cyfaint o sbwriel sy’n cael ei anfon i dirlenwi.WAGE

Gyda chefnogaeth Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru, mae awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi ymuno ag ymdrech Ewrop drwy drefnu cyfres o ddigwyddiadau a ddyfeisiwyd i wneud i bobl feddwl am sut gallan nhw greu llai o wastraff. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o weithgareddau cyfnewid – lle gwahoddir pobl i ddod ag unrhyw eiddo nad ydyn nhw ei angen bellach a’i gyfnewid am eitemau a gyflwynwyd gan bobl eraill – i ymgyrchoedd sy’n annog trigolion lleol i ddweud na wrth lythyrau sgrwtsh a pheidio â gwastraffu cymaint o fwyd.

Mae mudiadau cymunedol ar draws Cymru hefyd yn cymryd rhan gydag enghreifftiau’n amrywio o fudiadau elusen yn ail-garpedu ystafell gyffredin y chweched yn Rhondda Cynon Taf gyda theils carped ail law i brosiect creu gemwaith wedi’i ailgylchu ym Merthyr.

Fel yr eglura Owain Griffiths, pennaeth Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru, er bod y digwyddiadau i gyd yn wahanol, maen nhw’n rhannu’r un thema – creu llai o wastraff.

"Pan fydd y mwyafrif o bobl yn ystyried sut gallan nhw leihau’r effaith y mae eu sbwriel yn ei gael ar yr amgylchedd, maen nhw’n tueddu i feddwl fod popeth yn ymwneud ag ailgylchu. Er ei bod yn hynod o bwysig ailgylchu cymaint o’n gwastraff ag sy’n bosibl, y dull gorau o sicrhau’r niwed lleiaf i’n planed yw creu llai o sbwriel yn y lle cyntaf.

"Mae’n rhaid i ni gyd ystyried egwyddorion lleihau gwastraff a’u mabwysiadu i mewn i’n bywyd bob dydd - o ddewis nwyddau heb eu pecynnu a phrynu’r hyn yr ydyn ni ei angen yn unig mewn archfarchnad i ddefnyddio cewynnau go iawn i’n babanod a dweud na wrth lythyrau sgrwtsh. Drwy wneud pethau bychain fel hyn i ddatrys y broblem yn y gwraidd, gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth go iawn."

Cyfleoedd am gyfweliadau yn ystod EWWR

Bydd teulu ifanc o Ynys Mon yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau arbed gwastraff yn ystod EWWR a bydd cyfle i gael cyfweliadau, ffilmio a thynnu lluniau gyda nhw yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd llefarwyr ar ran Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru ar gael hefyd drwy gydol yr wythnos.

Enghreifftiau o’r hyn sy’n digwydd ar draws Cymru ar gyfer EWWR:

  • Mae Blaenau Gwent wedi prynu trelar hyrwyddo i fynd allan i’r gymuned a hybu lleihau gwastraff yn ystod EWWR.

  • Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi enwi trawstoriad o deuluoedd i gymryd rhan yn ei ymgyrch ‘Creu llai o wastraff mewn wythnos’. Bydd yr awdurdod lleol yn amlygu’r hyn y gall pob teulu ei wneud i leihau gwastraff yn y cartref e.e. siopa’n wythnosol, defnyddio cewynnau go iawn a defnyddio cynlluniau a gwasanaethau ailgylchu.

  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Ceredigion yn gweithio gyda’r cydlynydd Trefi Taclus ac wedi trefnu ymweliad â’r pum prif dref yng Ngheredigion yn ystod EWWR i gyflwyno gwybodaeth am ailgylchu, llythyrau sgrwtsh, Caru Bwyd Casáu Gwastraff a lleihau gwastraff yn gyffredinol.

  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil yn trefnu arwerthiant ‘dewch a phrynwch’ yng Nghapel Bedyddwyr y Stryd Fawr ddydd Gwener 27 Tachwedd.

  • Bydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot yn annog mamau beichiog lleol i ddefnyddio cewynnau go iawn yn ystod EWWR.

  • Yn Rhondda Cynon Taf, mae carpedi Cleanstream, mudiad elusennol sy’n ailddefnyddio teils carped i helpu i leihau’r nifer o garpedi newydd sy’n cael eu gweithgynhyrchu, yn ail-garpedu ystafell gyffredin chweched dosbarth yn Hawthorn School (23 Tachwedd) am ddim ac yn cynnal digwyddiad lleihau gwastraff ar 24 Tachwedd.

  • Mae Dinas a Sir Abertawe wedi mynd i bartneriaeth gyda Fforwm Gwastraff Abertawe a SCRAP i gynnal cyfres o bedwar o ddigwyddiadau cyfnewid mewn ysgolion cyfun lleol, yn ystod EWWR. Gofynnir i ddisgyblion ddod â DVDs, CDs, llyfrau, gêmau, teganau, atodion ayyb nad ydyn nhw eu hangen bellach, adeg egwyl y bore. Bydd pob plentyn sy’n dod ag eitem yn cael un daleb y gallan nhw ei defnyddio i ‘brynu’ unrhyw eitem arall y byddan nhw’n dymuno ei gael yn ystod y cyfnewid mawr amser cinio. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn Ysgol yr Esgob Vaughan, Ysgol Gyfun Bishopston, Treforys ac Olchfa drwy gydol yr wythnos.

  • Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen dri digwyddiad "Cyfnewid ar Raddfa Fawr" a ffeiriau Nadolig gwyrdd wedi’u trefnu ar gyfer 23 Tachwedd (Blaenavon Workingmens Club), 24 Tachwedd (Thornhill Community Centre), 25 Tachwedd (Trevethin Community Centre).

  • Mae prosiect GATES Morgannwg yn cynnal prosiect creu gemwaith wedi’i ailgylchu gan annog pobl leol i ddod â hen emwaith gleiniog ac addysgu technegau i’w gwneud yn rhai newydd.

  • Dydd Iau 26 Tachwedd, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - mewn partneriaeth gyda Bridge FM - yn ceisio torri record y byd yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont am y llinell hwyaf o ganiau diod. Torrodd yr awdurdod lleol record y byd am y tro cyntaf yn 2006 pan oedd dros 85% o ysgolion lleol yn cymryd rhan ac roedd cyfanswm o 84,498 o ganiau diod yn y llinell. Defnyddiwyd y fenter proffil uchel i amlygu ailgylchu caniau o’r sbwriel yng Nghanolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni, Crumlin Burrows ond torrwyd eu record y llynedd felly mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd ysgolion i helpu i osod record newydd a dod ag ef yn ôl i Ben-y-bont.

Bookmark and Share