Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Craff am Wastraff yn lansio ymgyrch hysbysebu newydd
17 Tach 2009Ddydd Llun 16 Tachwedd, bydd ymgyrch hysbysebu fwyaf deifiol a thrawiadol cynllun Craff am Wastraff yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf.
Mae’r hysbysebion dwyieithog a grëwyd gan gwmni Golley Slater Caerdydd, yn dangos plant bach yn ceisio’u gorau glas i ailgylchu papurau newydd, caniau, plastig a sbarion bwyd, ond yn methu gwneud hynny heb gymorth oedolion.
Wrth i dargedau ailgylchu ac effeithiau newid yn yr hinsawdd gynyddu, nod yr hysbysebion hyn yw dangos ein bod yn dinistrio dyfodol ein plant trwy barhau i daflu popeth.
Meddai Owain Griffiths, pennaeth cynllun Craff am Wastraff: "Er bod Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o ailgylchu 40% o’n holl wastraff erbyn 2010, mae angen gwneud cryn dipyn eto i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Er bod y gwasanaeth casglu deunyddiau ailgylchu ar gael i 98% o aelwydydd Cymru, dim ond 50% ohonom sy’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Dyw hyn ddim yn ddigon da.
"Erbyn hyn, mae awdurdodau lleol y wlad yn cyflwyno mesurau fel gwasanaethau casglu gwastraff bwyd a ddylai annog pobl i arbed ac ailgylchu mwy o wastraff y cartref - ond mae’n rhaid i bobl fanteisio ar y cynlluniau hyn, neu methiant fyddan nhw. Mae’n hollbwysig pwysleisio bod cyfrifoldeb ar bawb i osgoi anfon gwastraff diangen i safleoedd tirlenwi.
"Hyd yma, roedd hysbysebion Craff am Wastraff yn cynnwys negeseuon ysgafn i annog pobl i ailgylchu. Mae’n amlwg eu bod wedi llwyddo, a phobl Cymru wedi cofleidio’r syniad hwn, gan fod y cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu’n aruthrol dros y degawd diwethaf. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’n rhaid inni fabwysiadu negeseuon deifiol a thrawiadol i ddal sylw’r rhai sydd heb ddechrau ailgylchu ar hyn o bryd. Mae’n rhaid derbyn bod dyletswydd ar bob un ohonom i leihau gwastraff ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er lles cenedlaethau’r dyfodol."
Yn ogystal â chael effaith negyddol ar yr amgylchedd, dywedodd Mr Griffiths y bydd osgoi ailgylchu yn gostus i bawb ohonom yn y pen draw.
"Mae’r DU yn gorfod bodloni targedau Ewropeaidd llym i leihau cyfanswm y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. Dim ond trwy gynyddu ein cyfraddau ailgylchu y mae hyn yn bosibl.
"Os na fydd Cymru’n bodloni’r targedau ailgylchu, gallwn wynebu cosbau ariannol llym iawn gan Ewrop - hyd at hanner miliwn o bunnau’r dydd. Gyda thoriadau mewn gwariant cyhoeddus yn anorfod, ni fydd arian i dalu’r dirwyon hyn sy’n golygu mai’r trethdalwyr fydd yn gorfod ysgwyddo’r baich ariannol yn y pen draw."
Meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd:
"Rydym wedi gosod targed newydd uchelgeisiol i ailgylchu 70% o holl wastraff aelwydydd erbyn 2025. Mae’n rhaid i bawb gyfrannu at hyn. Allwn ni ddim parhau i gladdu gwastraff i bydru danddaear.
"Mae’n syml - trwy ailgylchu mwy a gwastraffu llai, bydd Cymru’n lle gwyrddach a mwy cynaliadwy. Mae gwastraff yn rhan helaeth o’n hôl troed ecolegol, ac mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar waredu gwastraff er mwyn gwireddu ein dymuniadau i fyw o fewn ein gallu fel gwlad.
"Ond mae’n rhaid i bawb ymuno â ni i greu cymdeithas sy’n ailgylchu o’r iawn ryw. Mae’n rhaid i ni ddarbwyllo pawb bod eu penderfyniadau a’u gweithredoedd nhw’n gwneud gwahaniaeth. Nid tasg ddi-werth yw didoli eich gwastraff gartref, ond tasg sy’n cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar ein byd."
Gwyliwch yr hysbyseb ar You Tube:


