Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Lleihau Gwastraff Bwyd Ac Arbed Arian Dros Yr Ŵyl
25 Tach 2009Mae cartrefi yng Nghymru yn cael eu hannog i fod yn fwy ymwybodol o wastraff y Nadolig hwn i arbed arian ar eu biliau bwyd dros yr ŵyl.
Trwy gynllunio ymlaen llaw a dilyn ambell i ganllaw syml, gall teuluoedd leihau costau yn ogystal â faint o fwyd dros ben a gwastraff sy’n cael ei daflu adeg y Nadolig.
Dros y Nadolig, mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n prynu mwy o fwyd nag arfer, ond a oes tuedd i fynd dros ben llestri?
Mae tua 230,000 tunnell o ddanteithion gwerth tua £275 miliwn yn cael eu taflu ledled y DU dros gyfnod y Nadolig. Eleni, mae Craff am Wastraff yn ddangos sut gall cartrefi arbed arian a lleihau gwastraff dros yr ŵyl.
Meddai
Bydd cynllunio gwell hefyd yn golygu na fyddwn ni’n prynu mwy nag sydd ei angen yn yr archfarchnad, fel nad oes gennym ormod o fwyd a allai ddarfod cyn iddo gael ei fwyta.
"Trwy ddilyn ambell i gam syml dros y Nadolig, gallwn leihau faint o fwyd rydyn ni’n ei daflu, yn ogystal â lleihau faint o fwyd rydyn ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi, a thrwy hynny, leihau ein biliau bwyd. Mae gwastraffu bwyd eisoes yn costio £420 y flwyddyn i’r cartref cyffredin. A chofiwch, mae lleihau gwastraff bwyd yn golygu mwy o arian i wario ar bethau eraill dros yr ŵyl.
"Mae cynllunio ymlaen llaw yn hollbwysig. Ysgrifennwch restr o bopeth rydych chi am ei brynu, rhag i chi fynd i’r archfarchnad a phrynu popeth rydych chi’n meddwl y byddwch chi ei angen. Peidiwch â chael eich temtio i brynu mwy nag sydd ei angen neu gan fargeinion nad ydych chi’n debygol o allu eu bwyta i gyd. Er enghraifft, rydyn ni’n tueddu i anghofio ein bod ni’n cael mwy o wahanol fathau o lysiau i ginio Nadolig ac felly rydyn ni angen llai o bob un ohonynt nag arfer.
O wneud y mwyaf o’r sbarion twrci i ailgylchu ein cardiau Nadolig, gall pob un ohonom wneud ein rhan i helpu i leihau faint o wastraff rydyn ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi y Nadolig hwn. Dyma gyngor Craff am Wastraff a fydd yn ein helpu i leihau gwastraff bwyd dros yr ŵyl :
- Gwnewch y mwyaf o’r bwyd sy’n weddill dros y Nadolig – mae sbarion twrci yn wych ar gyfer brechdanau, salad a phastai a gallwch ddefnyddio llysiau dros ben mewn cawl neu gyrri. Mae llawer o ryseitiau ar gael ar-lein – ewch i www.lovefoodhatewaste.com am syniadau di-ri ar gyfer unrhyw fwyd dros ben.
- Cofiwch gynllunio ymlaen a chreu rhestr siopa. Bydd hyn yn eich helpu i brynu beth rydych ei angen ac ni fydd peryg i chi anghofio unrhyw beth.
- Prynwch eich llysiau’n rhydd yn hytrach nag mewn pecynnau fel nad ydych chi’n prynu gormod.
- Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwybod faint sydd ei angen o bob dim, beth am ddefnyddio’r cyfrifydd ar-lein fel na fydd rhaid i chi ddyfalu:www.lovefoodhatewaste.com/perfect_portions
- Gallwch rewi caws dros ben neu ei ddefnyddio mewn sawsiau caws mewn prydau yr wythnos ganlynol.
- Rhowch ffrwythau, llysiau a chnau yn nrôr salad yr oergell fel eu bod yn para’n hirach.
- Gall croen a philion ffrwythau a llysiau gael eu compostio neu defnyddiwch wasanaeth casglu gwastraff bwyd eich awdurdod lleol, os oes un ar gael.
- Wrth siopa bwyd adeg y Nadolig, cofiwch fynd â’ch bagiau defnydd, ‘bagiau oes’ neu ailddefnyddiwch fagiau plastig sydd gennych yn barod.
- Os oes gennych chi ddant melys, gallwch wneud eich hufen ia eich hun gan ddefnyddio pwdin Nadolig dros ben.
- Mae’r bwydydd Nadolig mwyaf darfodus - a’r rhai drutaf yn aml iawn - yn cael eu cadw yn yr oergell, felly cofiwch gadw llygad ar y dyddiadau - mae’n bosib y gallwch rewi rhai bwydydd na fyddwch chi’n gallu eu bwyta mewn pryd, er mwyn i chi allu eu mwynhau pan fydd y Nadolig wedi hen fynd heibio.
- Gall y Nadolig effeithio ar ddyddiadau casglu sbwriel eich cyngor lleol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld ble’ch canolfan ailgylchu agosaf neu i gael mwy o wybodaeth am y dyddiadau casglu sbwriel dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.


