Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Arbed arian a diogelu'r amgylchedd trwy ailgylchu gwisg ysgol
17 Awst 2009
Mae Cynllun 'Craff am Wastraff' yn annog rhieni i ailgylchu gwisg ysgol eu plant fel y gallan nhw arbed arian a helpu i ddiogelu'r amgylchedd fel ei gilydd.
Mae modd ailddefnyddio, ailgylchu neu gyfnewid gwisg ysgol a dillad chwaraeon yn hytrach na'u taflu.
Ar gyfartaledd, bydd rhieni'n gwario £5,203 ar wisg ysgol a dillad chwaraeon dros yr 11 mlynedd mae'u plentyn yn mynychu'r ysgol[1]. Dim ond 39% ohonon ni sy'n ystyried sut mae taflu dillad yn effeithio ar yr amgylchedd, fodd bynnag, a dim ond 16% o'r hen ddillad sy'n cael eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio.[2]
Meddai Owain Griffiths, ar ran Cynllun 'Craff am Wastraff', "Yn aml, bydd llawer o rieni'n taflu gwisg ysgol a dillad ymarfer corff eu plant ar ddiwedd y flwyddyn ysgol os nad oes merch neu fab iau allai eu defnyddio eto.
"Yn hytrach nag eu hanfon i'r domen, mae sawl ffordd o gael gwared ar ddillad ysgol er lles yr amgylchedd. Gallech chi roi dillad sydd mewn cyflwr da i siop elusen, eu gwerthu neu eu dodi ar wefan Freecycle.co.uk lle mae pobl yn cynnig pethau nad oes eu hangen arnyn nhw mwyach."
"Os ydych chi am wneud rhywbeth gwahanol, gallech chi drefnu parti gyda'ch ffrindiau lle bydd modd cyfnewid dillad nad oes eu heisiau mwyach a chael gafael ar wisg ysgol fydd yn gweddu i'ch plentyn. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n helpu rhieni eraill ac yn cael dillad i'ch plant heb angen prynu rhai newydd sbon."
"Os yw'r dillad yn rhy hen i'w defnyddio eto, mae dewisiadau amgen na'u taflu. Mae hen ddillad yn adnoddau gwerthfawr y gallwn ni eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio i sawl diben megis deunyddiau llenwi neu glytiau glanhau."
"Rhaid inni i gyd helpu i ddiogelu'r amgylchedd trwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff – os gallwn ni arbed arian trwy hynny, bydd yn well fyth."
[1] Ffynhonnell: Canolfan Ymchwil Economeg a Busnes (CEBR)
[2] Ffynhonnell: Recycle Now
avascript>

