Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Nid yw tirlenwi yn bosibilrwydd bellach yng Nghymru.

25 Mehef 2009

Nid yw tirlenwi yn bosibilrwydd bellach yng Nghymru. Mae’r lle sydd ar gael yn prinhau ac mae cynghorau’n wynebu dirwyon a thargedau caeth o ran claddu llai o sbwriel, yn ogystal â bodloni targedau ailgylchu anodd Llywodraeth y Cynulliad. Yn amlwg, rhaid i ni gydweithio i ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint â phosib a lleihau ein gwastraff. A hithau’n Wythnos Ailgylchu Cymru, mae’r Cynghorydd Aled Roberts, sef Cadeirydd Craff am Wastraff wedi bod yn bwrw golwg ar sut mae cynghorau lleol yn datblygu eu gwasanaethau casglu a phrosesu gwastraff i geisio datrys yr argyfwng amgylcheddol yn lleol. Pam mae angen mwy o gyfleusterau i drin ein gwastraff?

"Ydych chi’n gwybod pam na ddylen ni gladdu ein sbwriel? Yn y lle cyntaf, mae’n cael effaith hynod niweidiol ar yr hinsawdd gan fod y sbwriel sy’n pydru yn rhyddhau methan, sef nwy tŷ gwydr sy’n 23 gwaith mwy niweidiol na charbon deuocsid. Yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd, ychydig iawn o le sydd ar ôl yn ein pymtheg safle tirlenwi ledled Cymru a bydd y rhain yn llawn o fewn wyth mlynedd os byddwn ni’n parhau i gynhyrchu gwastraff yn yr un modd. Rhaid cofio hefyd am ddeddfau Undeb Ewrop sy’n gosod targedau caeth ar gyfer ein hawdurdodau lleol bellach o ran lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gladdu. Felly, mae’r neges yn gwbl glir - rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaladwy o gael gwared ar wastraff ein cartrefi.

"Yr ateb symlaf i hyn yw gofalu ein bod ni gyd, sef y cyhoedd, yn mynd ati yn y lle cyntaf i roi llai o wastraff yn ein bagiau duon drwy ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o wastraff ein cartrefi â phosib. Er ein bod ni wedi cymryd camau mawr ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ailgylchu a gwrteithio 36% o’n gwastraff sef y gyfradd uchaf erioed yng Nghymru, rhaid i ni anelu’n uwch eto. Rhaid i bawb wneud rhagor er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth y Cynulliad, sef ailgylchu 70% o’n gwastraff trefol erbyn 2025, a gofalu bod Cymru ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â’r newid hinsoddol. Rhaid hefyd osgoi’r dirwyon enfawr y bydd Undeb Ewrop yn eu codi os na fydd Cymru’n cyrraedd y targedau blynyddol yma ar gyfer lleihau tirlenwi. Gallai’r dirwyon yma fod yn enfawr - £200 am bob tunnell o wastraff dros y targedau dan sylw – ac mae’n anochel mai’r trethdalwr fydd yn dioddef yn y pen draw drwy drethi uwch a thorri gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae cynghorau lleol yng Nghymru eisoes yn gwneud eu gorau i wella gwasanaethau cyhoeddus er mwyn ein cynorthwyo i ailgylchu rhagor a rhoi llai yn ein bagiau duon. A chyfrifoldeb y cyhoedd yw manteisio’n llawn ar y gwasanaethau a’r cyfleusterau newydd yma wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno ledled Cymru.food waste

"Mae cyflwyno casgliadau gwastraff bwyd lleol yn raddol yn faes sy’n gwella. Rydyn ni’n taflu oddeutu traean o’r bwyd rydyn ni’n ei brynu yng Nghymru - sy’n werth £500 miliwn - heb ei fwyta. Pe byddai pob awdurdod yn cyflwyno gwasanaethau penodol i gasglu gwastraff bwyd i ategu’r gwasanaeth casglu arferol, gallai hynny atal 330,000 tunnell rhag cael ei gladdu - sy’n cyfateb i lenwi dros 36,000 o gerbydau gwastraff. Mae’r gwastraff bwyd dan sylw yn cynnwys mwy na chroen ffrwythau a llysiau neu hen fagiau te. Mae modd casglu bwyd sydd heb ei fwyta a gweddillion yn ogystal â bwyd sydd heb ei ddefnyddio neu’i goginio’n llawn.

 

"Mae cynghorau lleol yn newid eu gwasanaethau am reswm penodol sef er mwyn trin ein gwastraff mewn modd mwy cynaladwy. O ran gwastraff bwyd, mae’r rhan fwyaf o’n hawdurdodau’n rhan o raglen genedlaethol i gaffael technoleg arloesol i drin y gwastraff yma erbyn 2013. Treulwyr anerobig yw’r rhain ac maen nhw’n cynnwys sustemau sy’n rheoli ac yn trin gwastraff bwyd er mwyn lladd yr holl bathogenau a chreu gwrtaith hylifol a soled i’w ddefnyddio ym myd amaeth. Mae modd adfer y nwy biolegol y mae’r broses ‘dreulio’ yma’n ei greu i gynhyrchu gwres a gyrru tyrbinau hefyd a chreu ynni sy’n gallu pweru safleoedd prosesu neu gartrefi ac ysgolion lleol yn ogystal â gwneud iawn am y tanwyddau ffosil a ddefnyddir. Mae ein cyfeillion ar y cyfandir eisoes yn defnyddio’r broses dreulio anerobig yma i gynhyrchu 0.28MW o bŵer am bob tunnel o wastraff a losgir, ac mae’n dechrau ennill ei phlwyf yma yn y DG. O ran posibilrwydd y broses yng Nghymru, er enghraifft, byddai rhoi holl wastraff bwyd Rhondda Cynon Taf drwy safle Treulio Anerobig yn gallu pweru tref o faint Porth ag ynni cynaladwy." 

landfill"Yn draddodiadol, rydyn ni wedi dewis cael gwared ar ein gwastraff yn y DG drwy dirlenwi: dyma fu’r ffordd rataf a mwyaf hwylus oherwydd y rhwydwaith estynedig o hen chwareli. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gwybod na ddylen ni dirlenwi, ond gall y ffaith fod creu ynni o wastraff - sydd wastad yn bwnc dadleuol - yn cynnig ateb llawer mwy cynaladwy a llai niweidiol, beri syndod i rai. Creu ynni o wastraff yw’r dull y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei hyrwyddo ar gyfer trin gwastraff dros ben. Mae o leiaf dau gwmni yn ceisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleusterau yn y de-ddwyrain ar hyn o bryd, a gallai’r rhain drin unrhyw wastraff nad oes modd eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. Nid oes gan ynni sy’n cael ei greu â gwastraff y ddelwedd orau ymhlith y cyhoedd yn y DG ac mae cylchoedd amgylcheddol wedi gwrthwynebu ar sail effeithiau honedig yr allyriadau ar iechyd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw debygrwydd rhwng y safleoedd modern yma sy’n creu ynni o wastraff â’r llosgwyr gwastraff llawn llygredd y saithdegau, ac maen nhw bellach yn llawer glanach na’r dulliau traddodiadol eraill o gynhyrchu pŵer. Ledled y byd, dyma’r dulliau cydnabyddedig o leihau, glanhau ac adfer ynni o wastraff trefol. Llosgi gwastraff dan amodau caeth yw eu hanfod er mwyn lleihau ei faint a’i allu i bydru ac i gynhyrchu trydan a/neu gynhesrwydd. Byddai’r trydan y mae cyfleuster 100,000tpa nodweddiadol yn ei gynhyrchu yn ddigon i bweru tua 10,000 o gartrefi ac yn cael ei drosglwyddo i’r grid cenedlaethol. Mae modd defnyddio unrhyw wres a gynhyrchir yn y safle mewn cynlluniau cynhesu diwydiannol neu leol os yw hynny’n addas. Defnyddir ynni o safleoedd gwastraff yn helaeth ac yn llwyddiannus ar y cyfandir. Mae stadiwm Ajax yn yr Iseldiroedd yn enghraifft o leoliad sy’n cael ei bweru gan wastraff yn unig. 

"Arbed ac ailgylchu ein gwastraff yw un o’r ffyrdd cyflymaf o leihau’r carbon rydyn ni’n ei gynhyrchu. Gan fod ein hawdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio’n galed i gyflwyno ffyrdd mwy cynaladwy o drin ein gwastraff yn y dyfodol, cyfrifoldeb y cyhoedd yw croesawu’r newidiadau yma a manteisio’n llawn ar y cyfleusterau newydd i geisio datrys yr argyfwng amgylcheddol a’r newid hinsoddol."

Bookmark and Share