Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Peidiwch â thaflu eich teledu…

19 Mehef 2009

Defnyddwyr yng Nghymru’n cael eu hannog i ailgylchu neu ailddefnyddio eu nwyddau trydanol dieisiau

Rydyn ni’n ailgylchu mwy o wastraff nag erioed o’r blaen yma yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi sylweddoli bod yn rhaid i ni arbed adnoddau prin y ddaear ac rydyn ni bellach wedi hen arfer didoli ein sbwriel i ofalu nad oes papur, gwydr, cerdyn neu blasting o unrhyw fath yn ein biniau.

Ond er bod ein cydwybod yn glir o ran y deunydd bob dydd sy’n cael ei ailgylchu, beth am y pethau eraill nad yn ein cartrefi ydyn ni’n eu defnyddio bellach. Gall y rhain gynnwys hen degell sydd wedi torri ers amser maith neu hen gyfrifiadur sy’n ddiwerth ers i chi gael gliniadur newydd sbon yn ei le. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen ailgylchu hen bapurau newydd a bod modd ailgylchu tuniau ffa pob drosodd a throsodd. Ond yn ôl pob golwg, ychydig iawn ohonon ni sy’n gwybod beth i’w wneud gyda hen eitemau trydanol sydd bellach yn ddiangen.PCs 2

A ninnau ar fin trosglwyddo i ddigidol, mae’n hanfodol ein bod yn canfod ffordd effeithlon o gael gwared ar ein hen setiau teledu yn bwysicach nag erioed. Er mai blwch digidol yn unig sydd ei angen i newid y rhan fwyaf ohonyn nhw, mae llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i brynu un o’r setiau LCD neu blasma sydd ar werth ar hyn o bryd. Ond beth fydd yn digwydd i’ch hen deledu a’ch peiriant fideo ffyddlon?

Yn ffodus, nid oes rhaid i’n nwyddau trydanol gael eu gwastraffu. Ar drothwy Wythnos Ailgylchu ledled y DG (22-28 Mehefin), mae Craff am Wastraff yn annog defnyddwyr i gael gwared ar eu hen nwyddau trydanol mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

"Nid yw’n hawdd cael gwared ar bethau sy’n ymddangos yn werthfawr fel hen ffonau symudol, teganau plant mewn cwpwrdd, hen offer trydanol sy’n llenwi’r garej neu degell neu dostiwr sydd wedi torri ac sy’n cymryd gormod o le," meddai Owain Griffiths, pennaeth Craff am Wastraff. "Mae llawer yn hel llwch yn yr atig neu’n waeth na hynny, yn cael eu rhoi yng nghanol gwastraff y cartref ac yn gwneud safleoedd tirlenwi hyd yn oed yn fwy gorlawn. Mae hyn yn peri cryn bryder gan fod llawer o hen nwyddau trydanol yn cynnwys deunyddiau a chemegau peryglus fel plwm, ffosfforau a gwydr.

"Yn lle eu taflu, ystyriwch a fyddai rhywun yn falch ohonyn nhw, neu beth am geisio eu cyfnewid gyda pherthnasau neu ffrindiau. Beth am eu gwerthu ar-lein, eu hysbysebu ar freecycle neu eu rhoi i elusen? Byddai unrhyw beth yn well na gadael iddyn nhw greu cymaint o niwed mewn safle tirlenwi.

"Os ydych chi’n prynu eitem drydanol newydd gan gwmni ac yn methu â gwerthu neu ailddefnyddio’r hen un, mae’n ofynnol i’r cwmni eich helpu chi i gael gwared ar ein hen eitemau trydanol mewn modd cyfrifol dan Gyfarwyddyd Offer Electronig Trydanol Gwastraff y DG (WEEE). Mae’r ddeddf yn seiliedig ar egwyddorion y ‘llygrwr sy’n talu’ fel bod y cwmnïau sy’n creu ac yn prynu eitemau trydanol yn gyfrifol am dalu am y gwaith ailgylchu.

"Mae gan lawer o gwmnïau mawr gynlluniau sy’n derbyn eich hen eitem. Bydd eraill yn cynnig ailgylchu eich hen eitemau ar yr amod eich bod yn prynu eitem newydd ganddyn nhw, wrth gwrs. Hyd yn oed os nad oes gan y siop gynllun o’r fath, mae’n rhaid iddo roi gwybod i chi am y man agosaf lle gallwch chi ailgylchu eich hen eitem.

"Fel arfer, trefnu i gwmni arbenigol drwsio neu adnewyddu’r eitem sydd orau, yn enwedig nwyddau fel poptai, peirannau golchi a sugnwyr llwch gan fod hynny’n gallu bod llawer rhatach na phrynu eitemau newydd.

"Fodd bynnag, os yw eich eitem wedi torri, a does dim bwriad gennych chi mewn prynu un newydd, dylech chi bob amser holi a oes modd ei ailgylchu. Credwch neu beidio, ond mae’r rhan fwyaf o eitemau trydanol yn cynnwys llu o ddeunyddiau gwerthfawr megis plastig, alwminiwm a gwifrai copr a fyddai o ddefnydd i adeiladu nwyddau eraill.

"Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnal cynlluniau ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) i gynnig mannau penodedig i gasglu nwyddau trydanol dieisiau er mwyn eu hailgylchu. Ewch i’n gwefan - www.wasteawarenesswales.org.uk - a nodwch eich côd post yn y Lleolwr Banciau i weld ymhle mae eich cyfleusterau agosaf ar gyfer ailgylchu bron unrhyw beth dan haul!"

Mae rhagor ar y dudalen nesaf