Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Peidiwch â thaflu eich teledu…
19 Mehef 2009Hynt a helynt rhewgell ddieisiau…
Felly, mae modd mynd â’n hen eitemau trydanol i gyfleuster casglu WEEE penodedig yn ein safle ailgylchu lleol ond beth sy’n digwydd iddyn nhw wedyn? Dyma hynt a helynt hen rewgell ar ôl ei gadael i’w hailgylchu.
- Bydd y rhewgell yn mynd i un o gyfleusterau ailbrosesu WEEE. Mae’r rhan fwyaf o offer trydanol dros ben yng Nghaerdydd, Casnewydd a chymoedd y de yn mynd i safle blaenllaw Sims Recycling Solutions yng Nghasnewydd. Dyma gyfleuster gwerth £12 miliwn sy’n gallu ailbrosesu 100,000 tunnell o ddeunydd bob blwyddyn gan gynnwys sugnwyr llwch, offer stereo, meicrodonau, chwaraewyr DVD, cyfrifiaduron a rhewgelloedd. Mae’n cynnwys y safle ailgylchu rhewgelloedd mwyaf yn y byd ac mae’n gallu prosesu dros filiwn o rewgelloedd sydd wedi darfod bob blwyddyn.
- Pan mae Sims Recycling Solutions yn derbyn rhewgell, ceir gwared ar yr holl wydr, pren, ceblau, switshis mercwri a’r unedau cywasgu yn ogystal â difwynwyr eraill.
- Mae’r hylifau oeri, sy’n cynnwys ODS (Sylweddau Gwanhau’r Oson), yn cael eu gwagio drwy brosesau penodol er lles yr amgylchedd.
- Wedyn, rhoddir yr oergell ar lwybr cludo sy’n mynd ag ef i’r broses drin.
- Mae hyn i gyd yn digwydd mewn safle caeedig llawn nitrogen er mwyn lleihau’r perygl o ffrwydrad ac i reoli’r ODS.
- Defnyddir techneg ridyllu i wahanu a thynnu’r ewyn polywtheran o’r deunydd eraill nes ei fod tua 2mm o ran maint fel arfer. Yr ewyn yma yw’r deunydd insiwleiddio yng ngheudod y waliau ac yn nrws y rhewgell.
- Cynhesir yr ewyn polywrethan a’i sychu i wahanu’r ODS.
- Rhyddheir y nwyon CFC i’r atmosffer nitrogen er mwyn gwahanu’n nitrogen a’r ODS. Cesglir yr ODS er mwyn ei ddinistrio ac ailgylchir y nitrogen at ddibenion eraill.
- Wedyn, defnyddir magnetau electro i gael gwared ar y metelau haearnaidd oddi ar y plastig yn ogystal â’r metelau eraill sy’n weddill yn y deunydd gronynnog.
- Defnyddir meysydd magnetig o’r enw trolifau sy’n newid yn gyflym i gael gwared ar fetelau nad ydyn nhw’n haearnaidd (alwminiwm a chopr) oddi ar y plastig.
- Cludir y deunydd CFC mewn tuniau er mwyn cael gwared arnyn nhw’n ddiogel er lles yr amgylchedd.
- Mae oddeutu 90% o’r rhewgell yn cael ei hailgylchu. Mae’r plastig sy’n weddill yn cael ei asesu a’i werthu er mwyn creu amrywiaeth o gynnyrch ar gyfer y cartref.
<!-- AddThis Button BEGIN -->
<a class="addthis_button" href="http://www.addthis.com/bookmark.php?v=250&pub=xa-4a8179ea136ce943"><img src="s7.addthis.com/static/btn/lg-addthis-en.gif href="http://s7.addthis.com/static/btn/lg-addthis-en.gif">http://s7.addthis.com/static/btn/lg-addthis-en.gif" width="125" height="16" alt="Bookmark and Share" style="border:0"/></a><script type="text/javascript" src="http://s7.addthis.com/js/250/addthis_widget.js?pub=xa-4a8179ea136ce943"></script>
<!-- AddThis Button END -->


