Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Peidiwch â thaflu eich teledu…

19 Mehef 2009

Roedd Sian Hunt, sy’n 26 ac yn byw yng Nghaerdydd, yn bwriadu cael gwared ar ei hen gyfrifiadur a chael PCsgliniadur yn ei le. Meddai, "Dwi’n llawer mwy ymwybodol o faterion gwastraff yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwy’n ceisio ailgylchu cymaint â phosib gartref. Fodd bynnag, pan brynais i gyfrifiadur mwy diweddar, doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai fy hen beiriant yn gorfod mynd i safle tirlenwi ai peidio.

"Cysylltais i â Chraff am Wastraff a ddywedodd wrtha i am gysylltu â Chyngor Caerdydd. Fe soniodd y cyngor am y Gwasanaeth Ailgylchu Cyfrifiaduron Cymunedol yn siop gyfrifiaduron SFX Tech ar Heol y Bont-faen.

"Fe es i i’r siop ac roedden nhw’n barod iawn eu cymwynas. Dywedodd y gweithwyr yno nad ydyn nhw’n taflu unrhyw gyfrifiadur sy’n dod i’r siop. Maen nhw naill ai’n cael eu hailgylchu mewn ffatri brosesu ar ôl eu datgymalu, neu’n cael eu hadnewyddu a’i hailwerthu os ydyn nhw mewn cyflwr da.

"Rhoddais fy nghyfrifiadur i reolwr y siop ac am ei fod yn beiriant cymharol newydd dywedon nhw y bydden nhw’n dileu’r data, ailosod rhaglen Windows ac yna’n ceisio ei werthu yn y siop. Fe gostiodd o £7.50 i mi, sy’n swm pitw iawn dybiwn i os yw’n rhoi bywyd newydd i’r cyfrifiadur ac yn ei atal rhag mynd i safle tirlenwi."

Gwasanaeth Ailgylchu Cyfrifiaduron Cymunedol yw un o’r cwmnïau mwyaf yng Nghaerdydd a’r de sy’n ailgylchu ac yn gwerthu cyfrifiaduron a chaledwedd TG. Mae’r cwmni’n cynnal polisi ‘dim tirlenwi’ ac mae’n cynnig gwasanaeth dileu data, adnewyddu ac ailgylchu moesol ar gyfer pob cyfrifiadur. Ffoniwch y siop - 02920 236759 - neu e-bostiwch www.citcwales.org.uk am ragor o wybodaeth.

Mae hanes oergell ddiangen ar y dudalen nesaf....