Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Hwyl a haf diwastraff
1 Gorff 2009Wrth i deuluoedd ledled Cymru edrych ymlaen at ddyddiau braf o haf ar y traeth, barbiciws blasus a dyddiau’n mwynhau cefn gwlad, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog pobl i feddwl yn wyrdd wrth gynllunio eu gweithgareddau’r haf hwn.
Wrth i’r tymheredd godi, mae’n sbwriel ni yn cynyddu mae’n debyg. O’r platiau a gwydrau untro yr ydym yn eu defnyddio mewn partïon haf a phicnics, i’r caniau diod a’r poteli dŵr yr ydym yn eu hyfed yn y tywydd poeth, mae’r cwbl yn cyfrannu at y 4 miliwn tunnell o sbwriel a gaiff ei daflu yng Nghymru pob blwyddyn. Er bod pob un ohonom yn llawer gwell am ailgylchu’r gwastraff yn ein cartref, ymddengys fod hynny’n mynd yn angof pan fyddwn yn yr awyr agored.
Esbonia’r Cynghorydd Aled Roberts, Cadeirydd y cynllun ‘Craff am Wastraff’, y gall pobl wneud gwahaniaeth go iawn i’r amgylchedd trwy fynd ati i ailgylchu eu sbwriel yr haf hwn.
"Rydym yn arbennig o ffodus yma yng Nghymru i gael cymaint o olygfeydd godidog ar garreg y drws. O draethau prydferth i fynyddoedd mawreddog, maent oll ar eu gorau yn heulwen yr haf. Ond os ydym am warchod ein cefn gwlad i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau, rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â’r hyn yr ydym yn ei daflu.
"Mae pawb am fod yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf, gan lenwi’n dyddiau â gweithgareddau llawn hwyl. Ond mae’n bwysig peidio ag anghofio am yr arferion rheoli gwastraff da yr ydym wedi’u mabwysiadu gartref – trwy gynllunio ymlaen llaw a dilyn rhai camau syml, gall pob un ohonom leihau ein sbwriel yn hawdd yr haf hwn, hyd yn oed pan fyddwn ni oddi cartref yn yr awyr agored."
I’ch helpu i daflu cyn lleied o sbwriel â phosibl yr haf hwn, dyma rai awgrymiadau da gan y cynllun ‘Craff am Wastraff’:
1. Os ydych chi’n cynnal parti haf, sicrhewch eich bod yn gwybod yn union faint o westeion yr ydych chi’n coginio ar eu cyfer fel y gallwch chi gynllunio ymlaen llaw a phrynu dim mwy na’r hyn sydd ei angen.
2. Prynwch ffrwythau a llysiau rhydd yn lle rhai sydd wedi’u pacio eisoes. Gallwch chi ddewis y rhai gorau ac arbed gwastraff rhag mynd i’r bin.
3. Buddsoddwch mewn barbiciw yn lle defnyddio rhai untro tafladwy. Byddwch chi’n arbed arian yn y pen draw ac yn lleihau sbwriel na ellir ei ailgylchu.
4. Peidiwch â bod yn ddiog trwy brynu salad sydd wedi’i baratoi ymlaen llaw! Gwnewch eich salad eich hun a’i roi mewn cynhwysydd amldro i’w gadw’n ffres.
5. Yn hytrach na gwario ffortiwn ar gyllyll a ffyrc plastig a phlatiau papur untro, defnyddiwch eich llestri a’ch cyllyll a ffyrc arferol. Os nad oes gennych ddigon i bawb, gofynnwch i’ch ffrindiau ddod â rhai eu hunain.
6. Neilltuwch fin ailgylchu ar gyfer gwydr a chaniau nesaf at eich blwch oeri mewn picnics a barbiciws er mwyn ailgylchu’ch can neu botel wag wrth estyn am eich diod nesaf. Yn dibynnu lle’r ydych chi’n byw, gall caniau diodydd a photeli gwydr gwag naill ai gael eu casglu o’ch drws neu eu hailgylchu yn eich safle amwynder dinesig lleol - y peth pwysig yw peidio â’u taflu yn y bin sy’n golygu mai i safle tirlenwi y byddant yn mynd.
7. Defnyddiwch y bwyd sy’n weddill gennych o’ch barbiciw a’ch picnic! Gellir rhewi rholiau bara sydd dros ben, storio saladau a phasta yn yr oergell i’w defnyddio rywbryd eto ac mae cigoedd barbiciw yn hynod o flasus mewn brechdanau a rholiau’r diwrnod canlynol cyn belled a’u bod yn cael eu rhoi yn yr oergell dros nos.
8. Pan fyddwch yma a thraw yn yr awyr agored, sicrhewch eich bod yn golchi ac yn ailgylchu cymaint o’ch sbwriel â phosibl. Os nad oes yna gyfleusterau ailgylchu gerllaw, ewch â’ch gwastraff gartref gyda chi a’i ailgylchu gyda gweddill eich sbwriel.
9. Yn well fyth, arbedwch arian trwy bacio eich picnics mewn cynhwysyddion plastig amldro a rhowch ddiodydd wedi’u gwneud gartref mewn biceri plastig er mwyn lleihau gwastraff yn llwyr.
10. Pan fyddwch chi’n sychedig, ail-lenwch eich potel ddŵr gyda dŵr ffres o’r tap yn hytrach na phrynu potel newydd o ddŵr mwynol bob tro.
avascript>

