Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ailddefnyddio ac ailcylchu wrth lanhau yn ystod y gwanwyn

16 Maw 2009

Wrth i gynllun ‘Craff am Wastraff’ ddathlu ei chweched pen-blwydd yn ystod y mis (Mawrth), mae’n annog pobl i fynd ati eleni i ystyried chwe ffordd o ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau o’u cartrefi wrth lanhau dros y gwanwyn.  

Mae disgwyl i fwy o bobl nag erioed lanhau pob twll a chornel yn ystod y Gwanwyn eleni wrth i’r dirwasgiad frathu ac wrth i Dynes gyda dillad ac esgidiauberchnogion tai geisio ychwanegu gwerth at eu tai yn hytrach nag uwchraddio i rai newydd.  O ddefnyddio gwefannau fel Freecycle, rhoi dillad i siopau elusennol neu werthu eitemau, mae sawl ffordd o dacluso’ch cartref a sicrhau nad yw’ch eitemau diangen yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Meddai Rachel Jowitt, llefarydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:

"Mae dathlu ein chweched pen-blwydd wedi’n sbarduno i gyd i feddwl am ffyrdd o ofalu bod llai fyth o wastraff yn cael ei daflu. 
Wrth i ni gadw llygad ar y ceiniogau prin, mae mwy o bobl yn chwilio am ffyrdd o gael mwy o le yn eu cartrefi.  Trwy ddilyn ein chwe awgrym ar gyfer glanhau’n llwyddiannus yn ystod y gwanwyn, gallwn wneud ein gorau dros yr amgylchedd hefyd.

"Mae sawl opsiwn ar gael i gael gwared ar nwyddau diangen yn eich cartref.  Gallwch roi eich hen ddodrefn, dillad, llyfrau a gemau i siop elusennol er enghraifft, neu gysylltu â sefydliad ailddefnyddio lleol"

"Mae cynnig eitemau diangen i ffrindiau a theulu yn syniad da, yn enwedig ar adeg pan nad yw prynu eitemau newydd yn opsiwn yn aml.  Fel arall, ewch i freecycle.org lle mae pobl wrthi’n awyddus yn chwilio am fargen.  Hefyd, gallwch droi eich sothach yn arian parod drwy werthu eich nwyddau mewn arwerthiant cist car neu ar eBay."

Meddai Helen Jenkins, Cydgysylltydd Balchder Bro:

"Os ydych chi’n glanhau pob twll a chornel o’ch cartref, gofalwch nad ydych chi’n taflu unrhyw beth i gael ei dipio’n anghyfreithlon.  Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod eich gwastraff yn cyrraedd y lle cywir.

"Trwy sicrhau bod pwy bynnag sy’n mynd â gwastraff o’ch cartref yn gludydd gwastraff cofrestredig, gallwch gynorthwyo i ostwng dympio anghyfreithlon.  Mae rhestr o’r cludwyr cofrestredig yn eich ardal ar gael yn
www.environment-agency.gov.uk/publicregister

I ddathlu ei chweched pen-blwydd, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ wedi llunio chwe ffordd o wneud y gorau o’ch gwaith glanhau yn ystod y gwanwyn eleni mewn ffordd ecogyfeillgar:

  1. Rhowch eitemau diangen fel dillad, anrhegion, teganau a gemau i siop elusennol leol
  2. Cynigiwch eitemau diangen ar: www.freecycle.org
  3. Trowch eich sothach yn arian parod drwy ei werthu mewn arwerthiant cist car neu ar-lein yn www.ebay.co.uk
  4. Rhowch eitemau cartref mawr, diangen fel dodrefn ystafell wely neu ystafell fwyta i sefydliad ailddefnyddio lleol, neu cynigiwch nhw i deulu neu ffrindiau.
  5. Ailgylchwch – meddyliwch cyn taflu eitemau diangen i fagiau du.  Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i holi pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu’n lleol.
  6. Cadwch bethau – rhowch got o baent newydd ar eich hen ddodrefn, neu wnïo botymau newydd at gardigan blaen, a rhoi bywyd newydd i’ch pethau.