Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Traethawd Ailgylchu

26 Chwef 2009

Wrth i brisiau gwael rhai deunyddiau ailgylchadwy yn y farchnad fyd-eang barhau i sbarduno sibrydion bod awdurdodau lleol Cymru’n pentyrru gwastraff, rhoddodd y Cynghorydd Aled Roberts, Cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’, ddiwedd ar y sibrydion hynny.

"Os ydyn ni am goelio’r cyhoeddusrwydd diweddar, dylai pawb roi’r gorau i ailgylchu gan fod y rhan fwyaf o’r deunyddiau hyn yn cael eu pentyrru a bod perygl mai safleoedd tirlenwi fydd pen eu taith wrth i awdurdodau lleol straffaglu i werthu nwyddau ailgylchadwy i gontractwyr ar gyfer eu prosesu. Ond NID yw PEIDIO ag ailgylchu yn opsiwn i Gymru.  Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni barhau i ailgylchu gwastraff y cartref, nid yn unig er mwyn cyrraedd targedau’r llywodraeth, ond er mwyn cyflawni’n hymrwymiadau amgylcheddol hefyd.

"Ydy, mae’r dirywiad economaidd byd-eang wedi golygu dirywiad difrifol ym mhrisiau’r farchnad ar gyfer llawer o ddeunyddiau ailgylchadwy, fel dur a phapur cymysg.  Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr i’r elw sylweddol a wnaed yn gynharach yn 2008.  Ond nid yw’r sefyllfa mor druenus â’r hyn a awgrymir gan rai yn y cyfryngau.  Yn wir, nid yw cynghorau Cymru yn datgan eu bod yn pentyrru gwastraff ac maent yn parhau i ganfod marchnadoedd.  Felly, mae’r adroddiadau negyddol hyn yn y cyfryngau wedi’u gorliwio’n aruthrol ac yn gamarweiniol o safbwynt Cymru.  I ategu hyn, nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gweld unrhyw gynnydd sylweddol mewn ceisiadau am fannau storio gwastraff ailgylchadwy.  Yn wir, y farn gyffredinol ymhlith y rhai sy’n rhan o ddiwydiant gwastraff y DU yw bod y marchnadoedd yn gwella bellach, er nad i lefel y prisiau blaenorol hyd yma.

"Y gwir amdani yw y bydd prisiau’r farchnad ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy yn amrywio byth a hefyd.  FODD BYNNAG, mae ailgylchu yn broses hirdymor i ni ac ni fydd llanw a thrai tymor byr yn effeithio ar hynny.  Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i’r DU.  Mae ailgylchu yn ddiwydiant rhyngwladol, felly bydd pob gwald yn wynebu pwysau tebyg yn y farchnad i’r hyn a welir gan ein cynghorau a’n contractwyr lleol.

"Mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn parhau i annog a pherswadio pobl Cymru i ailgylchu er mwyn i awdurdodau lleol allu cyrraedd targed Llywodraeth Cynulliad Cymru o ailgylchu 70% o wastraff trefol erbyn 2024/25.  Mae cynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud.  Ar hyn o bryd, 36% yw cyfradd ailgylchu Cymru (Ebrill - Medi 2008)*, o’i gymharu â dim ond 4.8% ddeng mlynedd yn ôl, ac mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn cyrraedd targed ailgylchu gwastraff trefol 2009/10, sef 40%.  Mae’r ymdrech aruthrol hon i ailgylchu yn golygu bod cynghorau Cymru wedi cyrraedd eu targedau lleihau tirlenwi a osodwyd gan Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru ddwy flynedd yn gynnar.  Dyma brawf o’r hyn y gall ailgylchu ei gyflawni.

"Ond, er y camau arwyddocaol hyn ymlaen, casglwyd oddeutu 1.4 miliwn tunnell o wastraff gweddilliol - digon i lenwi oddeutu 160,000 o gerbydau casglu gwastraff - o gartrefi i’w dirlenwi yn 2007/08.  Bob blwyddyn, rhoddir targed uchelgeisiol i bob cyngor lleol yng Nghymru i leihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.  Mae methu cyrraedd y targedau hyn yn arwain at gosb sylweddol o £200 am bob tunnell o wastraff a anfonir i’w dirlenwi.  Felly, mae mynd ati i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu yn gwneud synnwyr amgylcheddol ac economaidd da.  Mae ein neges i bobl Cymru yn un syml - manteisiwch i’r eithaf ar eich gwasanaethau ailgylchu lleol - casgliadau carreg drws, safleoedd casglu gwastraff, biniau gwastraff bwyd - i sicrhau bod cymaint o wastraff cartrefi â phosibl yn cael ei ailgylchu.  Ein dyfodol ni sydd yn y fantol, a ffwlbri yw ei daflu!"