Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Gwasanaeth ar-lein newydd i hybu’r arfer o ailddefnyddio ac ailgylchu
25 Chwef 2009Heddiw, ail-lansiodd cynllun ‘Craff am Wastraff’ ei leolwr banciau ailgylchu ar-lein i’w gwneud hi’n haws fyth i bobl Cymru gael gwybodaeth am sut i ailddefnyddio ac ailgylchu amrywiaeth eang o eitemau’r cartref yn eu hardal.
Y gronfa ddata hon, sy’n cynnwys y wybodaeth fwyaf diweddar ac yn defnyddio technoleg mapio ryngweithiol Google, yw’r gyntaf o’i bath i restru cyfleusterau ailgylchu, sefydliadau ailddefnyddio ac elusennau lleol sydd yn derbyn eitemau penodol.
Mae’r cyfleuster chwilio ar-lein hefyd yn darparu rhestr gynhwysfawr o ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ar ffurf lluniau hawdd eu defnyddio. O duniau paent hanner llawn, hen gyfrifiaduron a dodrefn i hen lenni, carpedi a dillad gwely, mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys popeth.
Nod y gronfa ddata newydd hon yw cynnwys holl fanciau ailgylchu awdurdodau lleol, canolfannau ailgylchu gwastraff tai, a sefydliadau ailddefnyddio ac ailgylchu Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru) ledled Cymru. Mae gan awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol hawl i ddiwygio a diweddaru eu gwybodaeth i sicrhau bod y gronfa ddata’n gyfredol.
Meddai Dr Tim Peppin, llefarydd cynllun ‘Craff am Wastraff’: "Nawr gall pobl gael gwybodaeth am ba eitemau cartref y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ac ym mhle wrth glicio botwm, sy’n ei gwneud hi’n haws iddynt ddod i’r arfer o wneud hynny. Mae’r cyfleuster newydd hwn hefyd yn ei gwneud hi’n haws i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol ledaenu gwybodaeth a dylai helpu Cymru i gyflawni’r targed o ailgylchu 70% o wastraff dinesig erbyn 2024/25."
Ychwanegodd Ruth Llewelyn, Cylch: "Pa mor aml ydych chi wedi gofyn - ble alla i ailgylchu hwn? Mae’r ateb gennym bellach – mae’r atebion ar-lein. Bydd y wefan yn hynod ddefnyddiol ar gyfer eitemau anghyffredin. Mae pobl bob amser yn synnu at yr amrywiaeth o eitemau y gall mentrau cymdeithasol lleol eu hailddefnyddio, a’m cyngor i yw, ewch i’r wefan hon cyn taflu dim a all fod o ddefnydd i rywun arall."


