Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Dymunwn Nadolig craff am wastraff i chi i gyd
4 Rhag 2008Wrth i baratoadau’r Nadolig gychwyn o ddifrif, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog siopwyr prysur i beidio â gwastraffu dros yr ŵyl.
Rydyn ni’n taflu traean o’r bwyd a brynwn, felly mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn erfyn ar siopwyr i gynllunio ymlaen llaw y Nadolig hwn er mwyn lleihau’r bwyd sy’n cael ei daflu i safleoedd tirlenwi.
Yn ôl ymgyrch ‘Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff/Love Food Hate Waste’, mae siopwyr Cymru yn taflu tua 330,000 tunnell o fwyd i’r bin bob blwyddyn - mae hynny’n gyfwerth â phwysau bron i 41,250 o fysiau deulawr ac yn ddigon i lenwi dros 36,000 lori sbwriel!
Mae gwastraffu bwyd yn costio £420 i’r cartref cyffredin bob blwyddyn felly mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog siopwyr i gynllunio ymlaen llaw, storio bwyd yn effeithiol a defnyddio rysetiau ar gyfer sbarion bwyd, nid yn unig er mwyn lleihau gwastraff, ond i arbed arian hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Aled Roberts, Cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Bydd pobl yn gwario llai eleni ac felly rydyn ni wedi meddwl am awgrymiadau gwych ar gyfer siopwyr i’w helpu nhw i osgoi gorwario, a bydd hynny’n lleihau’r bwyd sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn y pen draw.
"Meddwl ymlaen yw’r ateb. Cyn mentro i brysurdeb y siopau, sylwch ar ba fwyd sydd yn eich cegin eisoes ac ysgrifennwch restr fanwl o’r bwyd sy’n rhaid i chi ei brynu. Peidiwch â chael eich temtio i brynu nwyddau diangen nac ildio i gynigion bwyd os na fydd modd i chi eu bwyta.
"Mae mesur dognau bwyd yn ffordd hawdd o leihau gwastraff. Ceisiwch ddewis cynnyrch sydd heb gymaint o ddeunydd pacio hefyd fel ffrwythau a llysiau rhydd. Yn olaf, peidiwch â thaflu eich sbarion ar ôl gorffen eich cinio Nadolig. Meddyliwch am yr holl brydau gwahanol y gallech eu coginio gan ddefnyddio’r sbarion."
Awgrymiadau cynllun ‘Craff am Wastraff’ ar sut i leihau’r gwastraff bwyd dros gyfnod y Nadolig
Cynllunio:
- Lluniwch restr cyn mentro i’r siop – gall hyn arbed amser ac arian;
- Sylwch ar beth sydd eisoes yn eich cwpwrdd, oergell neu rewgell cyn i chi siopa;
- Cadwch fwydydd defnyddiol yn y cwpwrdd er mwyn creu pryd sydyn;
- Hefyd, cofiwch fynd â bagiau defnydd neu ‘fagiau am oes’ y gellir eu hail-ddefnyddio gyda chi i siopa Nadolig.
Awgrymiadau storio:
- Gofalwch eich bod chi’n gwybod pa fwydydd sydd angen eu bwyta yn gyntaf a dysgwch ystyr pob label dyddiad (e.e. defnyddio erbyn (use by), ar ei orau cyn (best before));
- Rhowch fwydydd fel bara yn y rhewgell os na fyddwch chi’n eu bwyta’n syth;
- Defnyddiwch eich oergell - er enghraifft, gellir cadw’r rhan fwyaf o ffrwythau aeddfed yn yr oergell er mwyn iddynt bara’n hirach;
- Cadwch dymheredd eich oergell rhwng 1-5ºC – dyma ffordd o gadw’r bwyd ar ei orau;
- Gellir rhoi moron neu giwcymbr meddal mewn dŵr oer er mwyn eu hadfywio.
Dognau bwyd:
- Mae rheoli dognau bwyd yn ffordd o arbed arian a sicrhau nad oes gennych gannoedd o ysgewyll dros ben. Fel canllaw bra s, dylai llond llaw o lysiau fod yn ddigon ar gyfer un person. Er hynny, byddwch chi’n gweini sawl math gwahanol o lysiau mewn un pryd dros y Nadolig, felly mae’n bosibl bod angen i’r dognau bwyd unigol fod yn llai;
- Wrth goginio bwyd fel pasta neu reis, mesurwch y bwyd yn gyntaf er mwyn lleihau gwastraff. Fel canllaw cyffredinol, mae tua 5 llwy fwrdd (75ml) o reis heb ei goginio yn ddigon ar gyfer un oedolyn. Rhoddir canllawiau ar faint dognau ar y pecyn fel arfer.
Mwynhewch eich sbarion:
- Gwnewch yn fawr o’ch sbarion Nadolig - mae twrci oer yn wych ar gyfer gwneud brechdanau, salad a phasteiod, a gellir defnyddio sbarion llysiau mewn cawl neu gyri. Ceir llawer o rysetiau ar-lein - ewch i www.lovefoodhatewaste.com am fwy o rysetiau sy’n defnyddio sbarion;
- Beth am greu hufen ia blasus gan ddefnyddio sbarion y pwdin ’Dolig?;
- Mae rhewi bwyd yn gwneud i llawer o fwydydd bara’n hirach.
Compostio:
- Gall hyd yn oed bwyd nad oedd bwriad ei fwyta osgoi’r bin. Gellir compostio crwyn llysiau, pil oren - hyd yn oed bagiau te a phlisgyn wy. Gallwch roi eich blodau Nadolig yn eich bin compostio hefyd.


