Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

CALENDR CEWYNNAU GO IAWN

1 Rhag 2008

Mae tri ar ddeg o fabanod o bob cwr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer calendr sy’n hybu’r defnydd o gewynnau go iawn yng Nghymru.

Mae calendr 2009 yn rhan o Ymgyrch Cewynnau Go Iawn i annog rhieni i ystyried defnyddio cewynnau go iawn ar eu babanod.

Alexa Scarpato with mother Josie.Enillwyr y gystadleuaeth yw Isabel Lewis o Gasnewydd, Alexa Scarpato o Gasnewydd, Caitlin Gorn o Ferthyr Tudful, yr efeilliaid Lonnie a Romey Davies o’r Rhyl, Cameron Rowlands o Dywyn, Mali Hattle o Ddolgellau, Steffan Higgins o Abertawe, Korey Jones o’r Barri, Macey Dibley o Gaerdydd, Joshua Richardson o Gaerfyrddin, Ben Butcher o Hwlffordd a Keira-Nadine Evans o Aberdaugleddau.

Ar gyfer pob plentyn sy’n defnyddio poti yng Nghymru, bydd tua 5,000 o gewynnau tafladwy wedi’u hanfon i safleoedd tirlenwi. Gall defnyddio cewynnau go iawn fod hyd at £500 yn rhatach na chewynnau tafladwy, felly maen nhw nid yn unig yn creu llai o wastraff ond hefyd yn arbed arian.  

Meddai Josie Scarpato o Gasnewydd, un o famau’r babanod buddugol, "Dechreuais ddefnyddio cewynnau go iawn pan ddarllenais i am y gystadleuaeth calendr babanod yn fy mhapur lleol. Penderfynais wneud mwy o ymchwil a rhoi cynnig arnynt ar fy merch Alexa sy’n flwydd oed.

"Synnais pa mor fodern yw cewynnau go iawn. Maen nhw’n hawdd i’w defnyddio ac yn hawdd iawn i’w golchi yn y peiriant golchi gartre’. Maen nhw’n llawer rhatach na chewynnau tafladwy hefyd, ac rwy’n falch o gael gwneud rhywbeth er lles yr amgylchedd drwy beidio anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi."

Meddai Rachel Jowitt o gynllun ‘Craff am Wastraff’, Amrywiaeth o Gewynnau Go Iawn

"Hoffem ddiolch i’r holl rieni a’r babanod a gymerodd ran yn y gystadleuaeth calendr a llongyfarch yr enillwyr hefyd. Mae’r calendr cewynnau go iawn yn fenter wych i annog rhieni i ystyried defnyddio cewynnau go iawn ar eu babanod a’n gobaith yw y bydd y calendr yn ffordd o rannu’r neges am eu manteision.

"Mae cewynnau go iawn wedi newid cryn dipyn ers i lawer o bobl eu defnyddio yn y gorffennol – erbyn hyn, maen nhw i’w cael mewn lliwiau llachar ac wedi’u ‘siapio i ffitio’. Maen nhw’n cau gyda chaewyr defnydd neu bopwyr ac maen nhw’n hawdd i’w golchi yn y peiriant golchi. Ac yn bwysicaf oll, yn ogystal â helpu i arbed yr amgylchedd, gellir arbed hyd at £500 ar gyfer y plentyn cyntaf sy’n eu defnyddio, felly maen nhw’n llesol i’ch poced hefyd."

 Ffeithiau go iawn am gewynnau go iawn

  • Yng Nghymru, caiff 200 miliwn o gewynnau tafladwy eu taflu bob blwyddyn – 400 cewyn y funud
  • Mae baban yn defnyddio rhwng 4,000 a 6,000 o gewynnau cyn dysgu defnyddio’r toiled
  • Bydd holl gewynnau tafladwy un baban yn llenwi tua 156 o fagiau sbwriel du
  • Mae cewynnau go iawn i’w cael mewn lliwiau llachar ac maen nhw wedi’u ‘siapio i ffitio’. Maen nhw’n cau gyda chaewyr defnydd neu bopwyr ac maen nhw’n hawdd i’w golchi yn y peiriant golchi.  
  • Gallwch arbed hyd at £500 y flwyddyn trwy ddefnyddio cewynnau go iawn ar gyfer eich plentyn cyntaf.