Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Gweinidog yn Cefnogi Ymgyrch Newydd
31 Hyd 2008
Mae’n bleser gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson AC, lansio ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd Cynllun Craff am Wastraff. Bwriad yr ymgyrch, sy’n cychwyn heddiw, yw galluogi pobl o bob cwr o Gymru i gyrraedd lefel uwch wrth arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.
Dywedodd Jane Davidson AC:
"Mae’r awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth ymarferol pobl Cymru’n sicr yn gwneud cynnydd mawr i leihau lefelau gwastraff. Mae tua un rhan o dair o wastraff trefol yng Nghymru’n cael ei ailgylchu erbyn hyn*. Ond mae’n RHAID i bob un ohonom gadw’n troed yn gadarn ar y sbardun os ydyn ni am gyrraedd ein targed ailgylchu cenedlaethol sef 40% erbyn 2010 a 70% erbyn 2025."
Bwriad yr ymgyrch newydd hon, sy’n dilyn taith ffantasïol plentyn ar drên arswyd, yw dangos bod cyfanswm y gwastraff sy’n mynd i’r bin yn dal i fod yn frawychus er gwaethaf y cynnydd a wnaed. Gan ganolbwyntio ar gompostio gwastraff bwyd fel croen ffrwythau a llysiau, ail-ddefnyddio dodrefn ac ailgylchu caniau dur i wneud trenau newydd, mae’r hysbyseb hwn yn annog pobl i wella’u perfformiad gwastraff a sicrhau bod gwastraff "brawychus" yn cael ei droi’n adnodd defnyddiol i ni gyd.
Bachgen un ar ddeg mlwydd oed o Abertawe o’r enw John William Carter yw prif gymeriad yr hysbyseb, sydd hefyd yn dangos
pa mor hawdd yw compostio, ailddefnyddio ac ailgylchu a’r manteision i’n bywydau bob dydd. Gan ddefnyddio props a gynhyrchwyd gan yr enwog Cod Steaks, mae’r hysbyseb wedi’i ysbrydoli gan y ffilm eiconig a dychrynllyd ei naws - Nightmare Before Christmas gan Tim Burton.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Roberts, cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff:
"Mae gweld pobl Cymru’n mynd ati i ddefnyddio’r gwasanaethau lleol i leihau gwastraff cartref yn grêt, ac mae cyfraddau ail-gylchu a chompostio wedi cynyddu am bum mlynedd o’r bron. Ond mae’r cartref cyffredin yng Nghymru’n dal i gynhyrchu 1.1 tunnell ychwanegol o wastraff gweddilliol bob blwyddyn. Mae hynny’n gyfanswm cenedlaethol yng Nghymru o 1.4 miliwn tunnell o wastraff gweddilliol – sy’n ddigon i lenwi tua 160,000 o gerbydau casglu gwastraff, a fyddai’n ymestyn am bellter o 1,093 milltir o’u gosod un ar ôl y llall - o Gaergybi i Gaerdydd ac yn ôl bron i dair gwaith. Felly mae’n amlwg y gallwn ni wneud llawer iawn mwy."
Bydd yr ymgyrch deledu’n parhau tan 31 Mawrth 2009, gydag ymgyrch hysbysebu debyg ar y radio o 1 Rhagfyr 2008.
* Ffynhonnell: Adroddiad CLlLC ar Berfformiad Gwasanaethau Lleol yng Nghymru 2008 – Hydref 2008


