Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Defnyddwyr Cymru yn ymateb i’r neges ailgylchu
22 Awst 2008Yn ôl y gwaith ymchwil diweddaraf * ar ran cynllun ‘Craff am Wastraff’, mae’r ymgyrch diweddar o hysbysebion teledu ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ yn helpu i bwysleisio’r neges ailgylchu ymhlith defnyddwyr ledled Cymru. Mae’r canlyniadau hyn yn cefnogi bwletin Cyflwr yr Amgylchedd 2008 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fis diwethaf, sy’n dangos bod pobl Cymru’n ailgylchu mwy erbyn hyn.
Dywedodd 76% o ymatebwyr yr arolwg barn eu bod wedi gweld hysbysebion yn hyrwyddo ailgylchu ar y teledu - sy’n dangos bod dwywaith cymaint o bobl yn ymwybodol o hysbysebion o gymharu â phedair blynedd yn ôl.
Mae’r cynnydd yn y gyfradd ymateb gyffredinol yn y bedwaredd don o’r gwaith ymchwil meintiol hwn, sef 23.2% o gymharu ag 19.1% yn 2006 a dim ond 14.7% bedair blynedd yn ôl, hefyd yn awgrymu bod y cyhoedd yn talu mwy o sylw i faterion ailgylchu.
Gan gyfeirio at ganlyniadau’r gwaith ymchwil, dywedodd Dr Tim Peppin, Llefarydd ar ran cynllun ‘Craff am Wastraff’,
"Mae ein gwaith ymchwil meintiol blynyddol yn rhoi arwydd defnyddiol i ni o faint o bobl sy’n ymwybodol o ailgylchu ac yn mynd ati ailgylchu ym mhob cwr o Gymru. Rydym wrth ein bodd bod ein prif negeseuon yn gwneud argraff, gan fod dwywaith nifer y bobl yn ymwybodol o negeseuon ailgylchu ar y teledu o gymharu â phedair blynedd yn ôl, yn ogystal â’r ffaith fod mwy o bobl wedi dewis cymryd rhan yn yr arolwg."
Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod dros 53.1% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn ailgylchu dros hanner y sbwriel o’u cartrefi bellach o gymharu â 29.7% bedair mlynedd yn ôl.
"Er gwaethaf y cynnydd mewn ailgylchu, casglodd awdurdodau lleol Cymru tua 1.8 miliwn o dunellau metrig o wastraff trefol yn ystod 2006/07. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnal llwyddiant ein hymgyrch hysbysebu a gweithgareddau lleol er mwyn cyflawni nod ailgylchu/compostio cenedlaethol Cymru, sef 40% erbyn 2009/2010."
* Cynhaliodd Research and Marketing Plus y bedwaredd don o waith ymchwil meintiol ar ran ymgyrchu hysbysebu ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ ym mis Ebrill 2008. Y gyfradd ymateb gyffredinol oedd 23.2% (1,741 o ymatebwyr)


