Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Nôl i'r ysgol gyda bocs bwyd diwastraff
27 Awst 2008
Wrth i blant ledled Cymru baratoi i fynd yn ôl i’r ysgol, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog rhieni i roi bocs bwyd diwastraff iddyn nhw er mwyn cynorthwyo i leihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi Cymru bob blwyddyn.
Yn aml mae cinio pecyn ysgol yn cynnwys pecynnau creision a deunydd lapio byrbrydau eraill, cartonau diodydd gan greu llawer o wastraff sy’n aml yn cael ei anfon yn syth i safleoedd tirlenwi. Fodd bynnag, trwy wneud ambell newid syml gallwn ni gynorthwyo i leihau’r gwastraff hwn.
Fel yr eglura’r Gwenan Davies, Swyddog Datblygu cynllun ‘Craff am Wastraff’: "Mae dileu gwastraff cyn ei greu yn un ffordd o wneud ein rhan i leihau’r gwastraff rydyn ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi Cymru. Ac mae bocs bwyd yr ysgol neu’r swyddfa yn fan cychwyn gwych. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd trwy leihau gwastraff gormodol, gallwn ni arbed arian hefyd, gan fod bwyd wedi’i bacio’n barod yn ddrutach yn aml.
"Mae’n hawdd lleihau gwastraff bocs bwyd trwy ddewis rhywbeth y gellir ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu. Hefyd, gallwn ddefnyddio’n pŵer prynu i ddewis cynhyrchion gyda llai o ddeunydd pacio. Gall prynu ffrwythau a llysiau rhydd ac ailddefnyddio bocs bwyd helpu i leihau’r gwastraff rydyn ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi yn ogystal ag arbed arian ar y bil siopa wythnosol."
Gair i gall gan Gynllun Craff am Wastraff ar greu cinio diwastraff:
- Defnyddiwch fflasg neu botel y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer diodydd ysgol yn hytrach na charton neu botel blastig;
- Peidiwch â defnyddio ffoil, haenen lynu neu fagiau storio i lapio brechdanau ond yn hytrach defnyddiwch focs bwyd y gellir ei ailddefnyddio;
- Rhowch ffrwythau a llysiau heb eu pacio yn y bocs yn lle bisgedi wedi’u pacio’n unigol a chreision;
- Os byddwch chi’n rhoi ffrwythau mewn bocsys bwyd cofiwch y gellir compostio croen neu galon ffrwythau gartref;
- Defnyddiwch lwyau metel yn lle rhai plastig tafladwy.


