Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Dim Dilla Newydd – Dim Ffasiwn Beth!
5 Awst 2008Os yw’r wasgfa ariannol yn mygu eich cariad at ffasiwn wrth i chi geisio gwrthsefyll y demtasiwn i wario yn sêls yr haf, peidiwch â digalonni. Mae gan gynllun ‘Craff am Wastraff’ yr ateb perffaith i chi allu siopa heb deimlo’n euog – parti cyfnewid dillad.
Meddai Gwenan Davies, swyddog datblygu cynllun ‘Craff am Wastraff’, "Mae’n debyg bod dros 1 miliwn tunnell o decstilau’n cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU - ond mae’n bosibl ailddefnyddio neu ailgylchu llawer o’r rhain. Wrth i gynifer ohonom ddechrau cyfrif cost y wasgfa ariannol bresennol, mae partïon cyfnewid dillad yn ffordd wych o arbed arian a diogelu’r amgylchedd heb gyfaddawdu ar steil."
Mae’r syniad o gyfnewid dillad yn syml. Rhowch wahoddiad i grŵp o ffrindiau draw i’ch cartref. Dywedwch wrth bawb am ddod â dillad nad ydyn nhw am eu cadw gyda nhw ac ewch ati i’w cyfnewid! Fe allwch gael sbri siopa rad a noson wych gyda’ch ffrindiau yr un pryd! Meddyliwch y boddhad a gewch o gyrraedd gyda phentwr o ddillad nad ydych chi’n eu hoffi mwyach, mynd adref gyda llond côl o ddillad newydd a gwneud rhywbeth dros yr amgylchedd trwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Mae yna ffyrdd eraill o siopa’n ddoeth hefyd. Beth am chwynnu’ch cwpwrdd dillad trwy roi eitemau nad ydych chi eu heisiau i siop elusen leol? Neu fynd i’r wefan www.freecycle.org - y rhwydwaith cymunedol ar-lein sy’n helpu pobl i gael gwared ar eitemau nad ydynt eu hangen trwy gyfnewid gyda phobl eraill ac ailddefnyddio.
Os na allwch wrthsefyll y demtasiwn i chwilio am fargen yn y sêls, fe allwch chi fod yn garedig i’r amgylchedd trwy siopa’n foesegol. Amcangyfrifir bod y broses o gynhyrchu un crys-t yn defnyddio 150g o blaladdwyr. Ond nid yw tecstilau organig yn defnyddio plaladdwyr, sy’n golygu eu bod yn ffynhonnell fwy cynaliadwy. A chan fod mwy o ddillad organig ar gael am bris rhesymol y dyddiau hyn, mae’n bosibl bod yn ffasiynol ac amgylcheddol heb orfod gwario llawer.
Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod chi’n mynd â’r dillad adref mewn bag cotwm neu fag wedi'i ailddefnyddio yn hytrach na bag plastig newydd, a chadw eich bys ar b?ls ffasiwn ecogyfeillgar.

