Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Lansio Canllawiau Ailgylchu
21 Gorff 2008Cafodd canllawiau newydd i helpu trefnwyr i gynnig cyfleusterau ailgylchu llwyddiannus mewn digwyddiadau eu lansio yn y Sioe Fawr eleni gan Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn Llywodraeth y Cynulliad.
Paratowyd ail rifyn ‘Canllawiau Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau Cymru’ gan y Prosiect Ailgylchu mewn Digwyddiadau yng Nghymru - menter ar y cyd rhwng Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru) a’r cynllun Craff am Wastraff – gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad.
Dyma’r Sioe fwyaf ecogyfeillgar hyd yma, gyda llawer mwy o fannau ailgylchu ledled y maes yn Llanelwedd. Bydd 40 o wardeiniaid ailgylchu wrth law i ateb cwestiynau’r ymwelwyr hefyd.
Bydd gwasanaethau casglu gwydr, caniau, poteli plastig, cardbord a sbarion bwyd ar gael i arlwywyr corfforaethol y Sioe, a bydd gwastraff cardbord yn cael ei gasglu o stondinau masnachol. Hefyd, bydd yr arlwywyr yn defnyddio pecynnau bioddiraddadwy i weini bwyd a diod, a’r rhain wedyn yn cael eu casglu i’w compostio gydag unrhyw sbarion bwyd.
Cafodd 77 y cant yn fwy o wastraff ei ailgylchu a’i gompostio yn y Sioe'r llynedd, er gwaetha’r tywydd drwg. Ac mae disgwyl cynnydd sylweddol eto eleni, gyda mwy o gyfleusterau ailgylchu i’r ymwelwyr a systemau newydd i gasglu gwastraff o’r stondinau arlwyo a masnachu.
Meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson:
"Mae’r fersiwn newydd o’r Canllawiau Ailgylchu yn adnodd gwych i gynorthwyo’r trefnwyr i sicrhau eu bod yn gwneud eu rhan trwy arbed ac ailddefnyddio gwastraff.
"Mae’n braf gweld trefnwyr digwyddiad mor fawr a phwysig â’r Sioe yn dilyn argymhellion y Canllawiau hyn. Er hynny, mae’n bwysig fod digwyddiadau bach a mawr yn rhoi’r flaenoriaeth i ailgylchu, ac yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i’r ymwelwyr ddefnyddio’r cyfleusterau hyn."
Ychwanegodd David Walters, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:
"Mae ailgylchu ar frig ein hagenda rheoli gwastraff. Mae’r Canllawiau Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau Cymru yn ddogfen hawdd ei defnyddio, gyda chyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i gychwyn cynlluniau ailgylchu llwyddiannus fel rhan o gynllun rheoli gwastraff integredig mewn digwyddiadau. Mae’r ail rifyn yn defnyddio’r Sioe Fawr fel astudiaeth achos o ddigwyddiad Cymreig sy’n mynd ati i ailgylchu."


